Mewn gwrandawiad yn Llys Sirol Yr Wyddgrug ddydd Gwener 29 Tachwedd cyflwynwyd Gorchymyn Gorfodi ar drefnydd gwyliau cerdd Rock the Park sydd wedi cael eu cynnal yn Wrecsam. Roedd yr un diweddaraf ym mis Awst 2023.
Cynhaliwyd y gwrandawiad llys yn dilyn ymchwiliad manwl gan Swyddogion Safonau Masnach Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Wrecsam i honiadau gan nifer fawr o gwsmeriaid.
Roedd y cwynion yn cynnwys methu â rhoi ad-daliadau ar ôl i ddigwyddiadau gael eu canslo, methu ag ymateb i gwynion, a gwrthod hawl cwsmeriaid i gael ad-daliad.
Daeth yr achos llys ar ôl i’r diffynnydd fethu â rhoi sicrwydd ffurfiol i’r Cyngor y byddai’n cydymffurfio ag amrywiaeth o ofynion cyfreithiol, yn enwedig cyfreithiau sy’n ymwneud â diogelu’r cwsmer a rhoi ad-daliad am gostau tocynnau ar gyfer digwyddiadau a gafodd eu canslo maes o law.
Os bydd y diffynnydd yn torri rhai o’r telerau a osodwyd gan y Gorchymyn fe allai ddangos dirmyg llys a allai arwain at ddirwy neu garchar.
Gwnaed y gorchymyn yn erbyn y trefnydd yn bersonol ac fe fydd yn berthnasol ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau maen eu trefnu yn y dyfodol, waeth beth yw statws unrhyw gwmni cyfyngedig y caiff y digwyddiad ei drefnu drwyddynt.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Wrecsam: “Rwy’n croesawu canlyniad yr achos llys yma a dwi’n gobeithio y bydd y bygythiad o ddirmyg llys yn gwneud i drefnydd y digwyddiad ystyried fel bod buddiannau defnyddwyr yn Wrecsam yn cael eu gwarchod yn y dyfodol.
“Nid yw’n dderbyniol bod y rhai sy’n mynd i wyliau ar eu colled o gannoedd o bunnoedd weithiau os nad yw digwyddiad yn cael ei gynnal.”
Mae’r gorchymyn hefyd yn golygu bod rhaid i’r diffynnydd gael unrhyw drwydded angenrheidiol ar gyfer unrhyw ddigwyddiad maen ei drefnu, ymgeisio mewn digon o amser am drwydded a chadw at bob amod o’r drwydded honno.