Mae Hysbysiad Gwella wedi’i gyflwyno i Penny Black am fethu â chymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o fod yn agored i’r Coronafeirws yn ei eiddo ac i bobl sy’n ciwio ar y tu allan.
Yn ogystal maent wedi methu â newid cynllun yr eiddo er mwyn cyfyngu cyswllt agos personol.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Mae’r Hysbysiad Gwella yn golygu bod rhaid iddynt gydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol neu bydd camau gweithredu pellach yn cael eu cymryd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a’r staff.
Mae tîm Trwyddedu’r Cyngor yn gweithio gyda’r Trwyddedai i’w cefnogi i wneud gwelliannau i gadw pawb yn ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’n siomedig bod y trwyddedai wedi methu â diogelu iechyd y staff a chwsmeriaid, a doedd dim dewis gan y swyddogion ond cyflwyno Hysbysiad Gwella.
“Hoffwn atgoffa bawb bod y Coronafeirws dal yn ein cymunedau ac mae arnom i gyd angen parhau i aros yn wyliadwrus o’i bresenoldeb er mwyn Cadw Wrecsam yn Ddiogel. Rydym eisiau osgoi’r mathau o gyfnodau clo lleol sydd wedi digwydd yn Ne Cymru a Gogledd-Ddwyrain Lloegr lle’r oedd rhai a oedd wedi cael eu rhyddid yn ôl wedi’i golli eto.
“Bydd ein swyddogion yn parhau i fonitro safleoedd a ni fyddant yn oedi i gymryd camau os bydd angen”.
YMGEISIWCH RŴAN