Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyflwyno’r Cynllun Cyffredinol Prydau Ysgol am Ddim i Flynyddoedd 3 i 6
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Road
Helpwch i gadw ffyrdd yn fwy diogel – dywedwch eich dweud!
Pobl a lle
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Heart tree - love your environment this Valentine's Day
Sut y gallwch chi garu’ch amgylchedd ar Ddydd Sain Folant (14 Chwefror)
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror...
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…
Pobl a lle Y cyngor
Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag
Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyflwyno’r Cynllun Cyffredinol Prydau Ysgol am Ddim i Flynyddoedd 3 i 6
Y cyngorBusnes ac addysg

Cyflwyno’r Cynllun Cyffredinol Prydau Ysgol am Ddim i Flynyddoedd 3 i 6

Diweddarwyd diwethaf: 2023/07/03 at 4:14 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
financial hep
RHANNU

Os bydd eich plentyn yn dechrau ym mlynyddoedd 3 i 6 yn yr ysgol gynradd ym mis Medi, bydd gennych ddiddordeb yn hyn!

Mae plant mewn dosbarthiadau derbyn a blynyddoedd 1 a 2 yng Nghymru eisoes yn cael prydau ysgol am ddim diolch i Raglen Gyffredinol Prydau Ysgol am Ddim Llywodraeth Cymru ac o fis Medi, bydd hyn yn cael ei gyflwyno i bob disgybl ym mlynyddoedd 3 i 6 yn Wrecsam.

Mae hyn yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i bwysau cynyddol costau byw ar deuluoedd, er mwyn mynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol.

Peidiwch â methu’r cyfle hwn i gael pryd ysgol poeth, maethlon i’ch plentyn – am ddim!

Ydi eich plentyn eisoes yn cael prydau ysgol am ddim?

Os ydi eich plentyn yn cael Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd yn seiliedig ar eich amgylchiadau, efallai y gallwch hefyd hawlio cymorth ychwanegol trwy’r Grant Hanfodion Ysgol, sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer gwisg ysgol, offer chwaraeon a dyfeisiau. 

Felly, o fis Medi ymlaen rydym yn annog rhieni i barhau i wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim fel bod eich plentyn yn cael yr holl gymorth y mae ganddo hawl iddo. 

I hawlio’r cynllun eleni, ewch i Grant Hanfodion Ysgol | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. 

Ydi eich sefyllfa ariannol wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf?

Os nad yw eich plentyn yn cael Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd, ond bod eich amgylchiadau wedi newid eleni, efallai y gall Wrecsam gynnig cymorth i chi.  I wirio a ydych chi’n gymwys am Brydau Ysgol am Ddim, ewch i Prydau Ysgol am Ddim | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Os ydych chi’n gymwys, efallai bod modd i chi dderbyn y Grant Hanfodion Ysgol hefyd.

Meddai’r Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Os ydych yn credu eich bod yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim, ewch i’n gwefan i wneud cais, hyd yn oed os yw eich plentyn yn gymwys i gael y Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu cael mynediad at y Grant Hanfodion Ysgol hefyd, sy’n gam pwysig wrth atal arian rhag rhwystro addysg plant.  Felly, os ydych yn credu eich bod yn gymwys, cysylltwch â ni i gefnogi rhieni a dysgwyr drwy’r flwyddyn ysgol.”

Ydi eich plentyn yn dechrau ysgol? Byddwch angen cyfrif Parent Pay

Er mwyn i’ch plentyn dderbyn pryd ysgol am ddim – boed yn bryd ysgol am ddim cyffredinol neu un ar sail cymhwyster – byddwch angen cyfrif ar wefan Parent Pay www.parentpay.com.  Dyma sut i greu cyfrif:

  1. Anfonwch e-bost at schoolmeals@wrexham.gov.uk gan nodi enw llawn eich plentyn, ei ddyddiad geni ac enw ei ysgol, a gofynnwch am god gweithredu Parent Pay
  2. Byddwch yn derbyn cod gweithredu ar gyfer sefydlu eich cyfrif

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am help ariannol sydd ar gael i’ch plentyn yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol, gallwch gysylltu â ni ar freeschoolmeals@wrexham.gov.uk.

Byddwch angen rhag archebu prydau ysgol ar Parent Pay hefyd.  Mae hyn wir yn helpu ysgol eich plentyn oherwydd nad oes raid i athrawon golli amser addysgu gwerthfawr yn cymryd archebion.  Golyga hefyd fod eich plentyn yn cael ei ddewis cyntaf o bryd o fwyd, ac mae’n ein helpu i leihau gwastraff.  Unwaith y byddwch wedi sefydlu cyfrif Parent Pay, gallwch archebu prydau bwyd eich plentyn hyd at bythefnos ymlaen llaw.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ty Pawb Masnachwyr a gweithwyr chwarae Wrecsam yn serennu mewn arddangosfa fawr yng Ngŵyl Ryngwladol Manceinion
Erthygl nesaf Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Gadewch i ni siarad am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Road
Helpwch i gadw ffyrdd yn fwy diogel – dywedwch eich dweud!
Pobl a lle Chwefror 16, 2026
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Chwefror 13, 2026
Heart tree - love your environment this Valentine's Day
Sut y gallwch chi garu’ch amgylchedd ar Ddydd Sain Folant (14 Chwefror)
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Chwefror 13, 2026
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror...
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…
Pobl a lle Y cyngor Chwefror 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror...
Pobl a lleY cyngor

Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…

Chwefror 11, 2026
Women's Health Event 2026
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad Iechyd Menywod 2026

Chwefror 3, 2026
Advanced manufacturing
Busnes ac addysg

Cynlluniau grant newydd yn targedu cwmnïau gweithgynhyrchu yn Sir y Fflint a Wrecsam

Chwefror 2, 2026
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg

Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Ionawr 30, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English