Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyflwynydd teledu Cymraeg i fod yn llysgennad i Tŷ Pawb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Pentwr bach o geiniogau arian ar ben nodyn £10 wedi'i blygu wrth ymyl cyfrifiannell ar ddesg
Cymorth ar gael i denantiaid y Cyngor gan ein Swyddogion Cynhwysiant Ariannol
Y cyngor
Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam bron yma!
Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam bron yma!
Digwyddiadau Y cyngor
Cynllun newydd yn ceisio gwella mynediad i'r stryd fawr mewn pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Cynllun newydd yn ceisio gwella mynediad i’r stryd fawr mewn pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
OPSS yn lansio ymgyrch diogelwch fêps newydd
OPSS yn lansio ymgyrch diogelwch fêps newydd
Y cyngor
HANES YN CAEL EI GWNEUD: WRECSAM YN CYRRAEDD Y RHESTR HIR AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
HANES YN CAEL EI GWNEUD: WRECSAM YN CYRRAEDD Y RHESTR HIR AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Cyflwynydd teledu Cymraeg i fod yn llysgennad i Tŷ Pawb

Cyflwynydd teledu Cymraeg i fod yn llysgennad i Tŷ Pawb

Diweddarwyd diwethaf: 2019/08/05 at 4:43 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Cyflwynydd teledu Cymraeg i fod yn llysgennad i Tŷ Pawb
RHANNU

Mae gennym westai enwog ar y ffordd…

Bydd Sian Lloyd, y cyflwynydd teledu Cymraeg a’r daroganwr tywydd yn ymweld â Thŷ Pawb ddiwedd yr wythnos hon i nodi ei rôl newydd fel llysgennad y marchnadoedd a chyfleusterau cymuned a chelfyddydau.

Sian yw’r ferch tywydd sydd wedi gwasanaethu hiraf yn y DU, ac wedi ymddangos ar ITV am fwy na 24 mlynedd. Mae hi hefyd yn llysgennad brwd dros yr iaith Gymraeg, diwylliant Cymreig a’r celfyddydau yng Nghymru.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Bydd hi’n dod i ymweld yn ystod paratoadau ar gyfer yr arddangosfa GWAITH-CHWARAE – darn o gelf yn seiliedig ar faes chwarae rhyngweithiol, a fydd yn cofnodi’r hanes pwysig o chwarae yn Wrecsam.

Bydd ei hymweliad yn cymryd lle yn ystod ein Diwrnod Chwarae blynyddol, a bydd hyn yn rhoi cipolwg ardderchog iddi o’r ffordd mae Wrecsam yn dathlu hawl plant i chwarae.

Dywedodd Sian: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â Wrecsam ddiwedd yr wythnos i gael gweld y gwaith tu ôl i arddangosfa GWAITH-CHWARAE Tŷ Pawb.

“Mae chwarae a chelfyddydau yn chwarae rhan fawr ym mywydau a datblygiad plant a phobl ifanc, ac edrychaf ymlaen at weld sut fyddent yn dod ynghyd fel rhan o’r arddangosfa.

“Bydd fy ymweliad â Thŷ Pawb yn amserol iawn, gan y byddaf yno ar gyfer Diwrnod Chwarae 2019 – felly rwy’n siŵr y bydd digon i’w weld yng nghanol y dref yn ystod y dydd!”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym yn falch iawn bod Sian wedi cytuno i fod yn llysgennad Tŷ Pawb, ac rwy’n siŵr y bydd paratoadau ar gyfer yr arddangosfa GWAITH-CHWARAE yn rhoi cyfle gwych iddi gael gweld ychydig o’r gwaith y mae Tŷ Pawb yn ei gyflawni fel cyfleuster.”

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwobr Medal AUR i Tŷ Pawb yn yr Eisteddfod Genedlaethol! Gwobr Medal AUR i Tŷ Pawb yn yr Eisteddfod Genedlaethol!
Erthygl nesaf Recycling Tips Facts Wrexham Council A wnaethoch chi fethu un o’r rhain? Dyma 7 o’r ffeithiau ailgylchu gorau #2

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Pentwr bach o geiniogau arian ar ben nodyn £10 wedi'i blygu wrth ymyl cyfrifiannell ar ddesg
Cymorth ar gael i denantiaid y Cyngor gan ein Swyddogion Cynhwysiant Ariannol
Y cyngor Mawrth 19, 2026
Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam bron yma!
Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam bron yma!
Digwyddiadau Y cyngor Mawrth 19, 2026
Cynllun newydd yn ceisio gwella mynediad i'r stryd fawr mewn pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Cynllun newydd yn ceisio gwella mynediad i’r stryd fawr mewn pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Mawrth 18, 2026
OPSS yn lansio ymgyrch diogelwch fêps newydd
OPSS yn lansio ymgyrch diogelwch fêps newydd
Y cyngor Mawrth 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pentwr bach o geiniogau arian ar ben nodyn £10 wedi'i blygu wrth ymyl cyfrifiannell ar ddesg
Y cyngor

Cymorth ar gael i denantiaid y Cyngor gan ein Swyddogion Cynhwysiant Ariannol

Mawrth 19, 2026
Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam bron yma!
DigwyddiadauY cyngor

Mae Llwybr Cwningen y Pasg Wrecsam bron yma!

Mawrth 19, 2026
Cynllun newydd yn ceisio gwella mynediad i'r stryd fawr mewn pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Cynllun newydd yn ceisio gwella mynediad i’r stryd fawr mewn pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Mawrth 18, 2026
OPSS yn lansio ymgyrch diogelwch fêps newydd
Y cyngor

OPSS yn lansio ymgyrch diogelwch fêps newydd

Mawrth 18, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English