Mae Wrecsam bellach o dan gyfnod clo lleol ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw i unrhyw un sy’n bwriadu mynd allan am bryd o fwyd neu i yfed.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG
Gellir darllen y canllawiau llawn yma. https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol-cyngor-bwrdeistref-sirol-wrecsam-cwestiynau-cyffredin ond os ydych yn bwriadu mynd allan i fwyta neu i yfed, dyma’r pethau allweddol sydd angen i chi wybod:
- Ni allwch gwrdd am ddiod neu bryd o fwyd gydag unrhyw un nad ydynt yn aelod o’ch aelwyd nes i’r cyfnod clo lleol godi.
- Ni allwch fynd allan o Sir Wrecsam am ddiod neu bryd o fwyd tan i’r cyfnod clo lleol godi
- Rhaid i chi wisgo masg wyneb i fynd i dafarn neu i fwyty neu gaffi
- Rhaid i chi gadw eich masg ymlaen bob amser oni bai pan fyddwch yn eistedd wrth eich bwrdd
- Dim ond gwasanaeth bwrdd fydd ar gael, ni allwch godi i fynd at y bar. Cymerir eich archeb wrth y bwrdd a bydd diodydd yn cael eu gweini i chi ar y bwrdd.
- Bydd yr holl staff sy’n gweithio mewn ardaloedd gyda chwsmeriaid yn bresennol, yn gwisgo masg wyneb
- Ni allwch gymdeithasu gydag unrhyw un arall tu hwnt i’ch grŵp ar y bwrdd, na symud o gwmpas tu mewn i’r safle
- Ni ddylech symud y byrddau gan fod y rhain wedi cael eu gosod er mwyn cadw pellter diogel rhwng pobl o aelwydydd gwahanol
- Hyd yn oed os ydych yn mynd allan am ddiod ac nid pryd o fwyd, rhaid i chi aros ar eich bwrdd dynodedig drwy gydol eich ymweliad
- Os ydych angen gadael y bwrdd am unrhyw reswm, er enghraifft, i fynd i’r toiled, rhaid i chi roi eich masg wyneb ymlaen.
- Mae rhai eithriadau o ran gwisgo masg wyneb sy’n gymwys i rai cwsmeriaid ac mae’r rhain yn cael eu hegluro yn y canllawiau
Cofiwch fod angen i chi wisgo masg wyneb os ydych yn mynd ar drên neu fws ac os ydych yn bwriadu defnyddio tacsi.
Mae’r mesurau newydd hyn yn cynorthwyo i ddiogelu pawb ac i leihau lledaeniad y feirws. Os fydd hyn yn methu ac os fydd cyfradd yr haint yn parhau i godi, mae’n debygol y bydd mesurau llymach yn cael eu cyflwyno.
Gwnewch eich rhan i gadw Wrecsam yn ddiogel.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG