Rydyn ni’n chwilio am barn partïon â diddordeb ynghylch y cynnig i leihau’r Nifer Derbyn Cyhoeddedig (NDC) yn Ysgol Gynradd Gymunedol Acton, Ysgol Lon Barcas ac Ysgol Clawdd Wat.
Mae ddogfen ymgynghori yn nodi’r wybodaeth y bydd angen i ymgyngoreion ei hystyried i gymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori.
Mae’r cyfnod ymgynghori yn cychwyn ar dydd Llun 2 Rhagfyr 2024 ac mae’n dod i ben ar 24 Ionawr 2025.
Gellir cymryd rhan yma:
Cynnig i Leihau Niferoedd y Disgyblion sy’n cael eu Derbyn a gyhoeddir yn Ysgol Lôn Barcas
Cynnig i Leihau Niferoedd y Disgyblion sy’n cael eu Derbyn a gyhoeddir yn Ysgol Parc Acton
Cynnig i Leihau Niferoedd y Disgyblion sy’n cael eu Derbyn a gyhoeddir yn Ysgol Clawdd Wat
Cynnig i newid Ysgol Cae’r Gwenyn
Dywedodd y Cyng Phil Wynn, Aelod arweiniol addysg “Rydan ni’n dymuno derbyn barn yr holl rai sy’n debygol o fod â chysylltiad â’r cynnig. Mae’n bwysig y gellir rhoi ystyriaeth i bob safbwynt cyn i benderfyniad gael ei wneud.
“Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiwn a rhoi gwybod i ni beth yw’ch barn drwy e-bostio ebost priodol.”
ActonPrimarySchoolConsultation@wrexham.gov.uk
WatsDykeConsultation@wrexham.gov.uk
BarkersLaneConsultation@wrexham.gov.uk
Rydym hefyd yn dymuno ceisio barn partïon â diddordeb ynghylch y cynnig i newid statws Ysgol Cae’r Gwenyn o ysgol feithrin brif ffrwd i ysgol gynradd arbennig a newid yr ystod oedran o 3-4 i 3-7. Mae’r ddogfen ymgynghori yn nodi’r wybodaeth y bydd angen i ymgyngoreion ei hystyried i gymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori.
Mae’r cyfnod ymgynghori yn cychwyn ar 2 Rhagfyr 2024 ac mae’n dod i ben ar 24 Ionawr 2025.
Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiwn a rhoi gwybod i ni beth yw’ch barn drwy e-bostio