Mae ein Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn atgoffa trigolion a busnesau am effaith y cyfreithiau newydd a gaiff eu cyflwyno gan y Llywodraeth er mwyn helpu i leihau lledaeniad COVID 19.
Er mwyn lleihau’r lledaeniad COVID 19, mae nifer o fusnesau gwahanol wedi gorfod cau er mwyn dileu unrhyw gyswllt rhwng cwsmeriaid a staff ac i annog pobl i beidio â theithio heb fod angen.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae tafarndai, bwytai a chaffis wedi gorfod cau ynghyd â nifer o fusnesau manwerthu eraill. Gellir dod o hyd i restr y Llywodraeth o safleoedd yma.
Mae rhai eithriadau i’r rheolau hyn. Er enghraifft, caniateir i archfarchnadoedd, manwerthwyr bwyd a fferyllfeydd a siopau eraill sy’n gwerthu eitemau hanfodol aros ar agor.
Caniateir i safleoedd prydau parod aros ar agor, ac mae modd i fwytai, tafarndai a chaffis sydd wedi gorfod cau eu gwasanaeth arferol ddarparu gwasanaeth prydau parod.
Mae’n hollbwysig fod busnesau yn cydymffurfio â’r rheolau hyn a bod pobl yn aros gartref gymaint â phosibl, ni ddylai pobl adael eu cartrefi am unrhyw reswm oni bai am y rhesymau penodol sydd wedi’u hamlinellu gan y Llywodraeth er mwyn lleihau lledaeniad y feirws ac i ddiogelu ein GIG er mwyn sicrhau fod pob claf sy’n wirioneddol sâl yn derbyn triniaeth.
Anwybyddu’r rheolau newydd a luniwyd i’n diogelu rhag COVID 19
Ers i’r cyfyngiadau hyn ddod i rym, mae’n braf gweld bod y mwyafrif helaeth o fusnesau wedi ymateb iddynt drwy gau. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod rhai safleoedd wedi bod yn anwybyddu’r rheolau newydd sydd wedi’u llunio i’n diogelu rhag COVID 19 ac rydym wedi cael gwybod am rai tafarndai sydd ar agor i gwsmeriaid, neu’n cau cwsmeriaid i mewn, neu achosion eraill tebyg o dorri rheolau.
Mae hwn yn gyfnod anodd i fusnesau, ac rydym yn hynod ymwybodol o’r effaith ariannol y bydd y mesurau hyn yn ei chael, ond bydd anwybyddu’r cyfyngiadau newydd hyn drwy beidio â chau busnesau yn peryglu bywydau.
Gallwch gael eich erlyn a cholli eich trwydded i weini alcohol
Bydd ein Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd, gan weithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru, yn cymryd unrhyw achos o dorri’r cyfreithiau newydd o ddifri. Gall busnesau sy’n methu â chydymffurfio gael eu herlyn a cholli eu trwydded i weini alcohol.
Dylai unrhyw fusnes sydd ag unrhyw bryderon neu amheuaeth am sut mae’r cyfreithiau newydd ynghylch cau busnesau yn cael effaith arnyn nhw geisio cyngor. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am fusnes sydd ar agor, cysylltwch â ni.
Gellir cysylltu â‘r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd dros e-bost: contact-us@wrexham.gov.uk
Gallwch hefyd ein ffonio ar 01978 292040, ond peidiwch â ffonio os oes gennych chi fynediad at e-byst gan fod ein llinellau ffôn yn hynod o brysur yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Cofiwch fod y mesurau hyn wedi’u gosod er mwyn diogelu iechyd pawb a’r GIG.
Arhoswch gartref, byddwch yn ddiogel a gofalwch am y rhai o’ch cwmpas drwy ddilyn y canllawiau sydd ar gael.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19