Cynhaliwyd y Diwrnod Cyfrifiad ddydd Sul, 21 Mawrth, ond mae rhai aelwydydd sydd dal heb gwblhau eu cyfrifiad.
Mae ail lythyrau atgoffa wedi eu hanfon yr wythnos hon ac mae staff maes cyfrifiad yn ymweld â’r aelwydydd hyn, mewn modd diogel.
Cadw’n ddiogel
Mae staff maes yn weithwyr allweddol, a gan na ellir gwneud eu gwaith trwy weithio o gartref, mae’r gyfraith yn caniatáu iddynt gyflawni dyletswyddau eu swydd. Ond maent yn gwneud hyn yn y ffordd fwyaf diogel posib.
Mae staff maes cyfrifiad yn cael pecynnau prawf llif unffordd Covid-19 ac maent yn profi eu hunain yn rheolaidd. Maent hefyd yn parhau i weithio o fewn canllawiau’r llywodraeth, gan gadw pellter cymdeithasol a gwisgo cyfarpar diogelu personol addas.
Mae’r modd y bydd swyddogion cyfrifiad yn gweithio yn 2021 wedi ei gynllunio i flaenoriaethu iechyd a diogelwch y cyhoedd a swyddogion.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Sut i wybod fod ymweliad yn un dilys
I’ch atgoffa, bydd swyddogion maes cyfrifiad yn:
• cario cerdyn adnabod gyda’u llun a’u henw
• gweithio trwy gydol y dydd i wneud cyswllt gyda phreswylwyr, ond ni fyddent yn galw cyn 9am neu ar ôl 8pm
• byth yn gofyn am arian neu fanylion banc
• byth angen mynd i mewn i gartref rhywun
Dylai unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n bryderus nad yw’r sawl sydd ar garreg eu drws yn swyddog cyfrifiad ffonio 0800 169 2021 neu anfon neges destun at 86677. Peidiwch â ffonio rhif ffôn a roddir i chi gan yr unigolyn sy’n galw i wirio pwy ydyn nhw.
Sgamiau cyfrifiad eraill
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ymwybodol o nifer o sgamiau eraill yn gysylltiedig â’r cyfrifiad.
Mae’r rhain yn digwydd trwy amrywiol ddulliau, gan gynnwys negeseuon testun ac e-bost. Os ydych yn cael unrhyw beth sy’n honni i ddod o’r cyfrifiad, mae bob amser yn werth cofio’r canlynol:
• Nid yw’r cyfrifiad yn gofyn am eich rhif yswiriant gwladol, cyfrineiriau, manylion cyfrif banc, neu eich rhifau cerdyn debyd neu gredyd
• Nid yw’r cyfrifiad angen unrhyw fath o daliad gennych
• Nid ydych yn cael unrhyw daliad am gwblhau’r cyfrifiad, felly bydd cynnig o arian yn gyfnewid am fanylion eich cyfrif yn dwyllodrus
• Ni ofynnir i chi am wybodaeth am y cyfrifiad oni bai eich bod wedi gwneud apwyntiad gyda Chanolfan Gyswllt y Cyfrifiad neu wedi gwneud ymholiad neu gŵyn.
• Ni fydd unrhyw un yn dod i mewn i’ch cartref mewn perthynas â’r cyfrifiad
• Mae cymorth i lenwi’r ffurflen am ddim (am fwy o wybodaeth ewch i https://cyfrifiad.gov.uk/ neu ffoniwch 0800 169 2021)
Rhoi gwybod am drosedd seiber
Os ydych chi’n credu eich bod chi wedi dioddef twyll neu drosedd seiber, rhowch wybod i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Action Fraud yw Canolfan Genedlaethol Adrodd am Sgamiau a Throseddau Seiber y DU.
Cyngor cyffredinol ar sgamiau
Fe allwch chi gael cyngor gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).
CANFOD Y FFEITHIAU