Bydd Tŷ Pawb, y cyfleuster celfyddydau, marchnadoedd a chymunedol newydd gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi’i leoli yng nghanol Wrecsam, yn agor ar gyfer dathliadau Ddydd Llun Pawb ar 2 Ebrill.
Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi’r arddangosfa gyntaf, a fydd yn lansio rhaglen dreigl o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol i’w cynnal yn Nhŷ Pawb.
Bydd yr arddangosfa Ai’r Ddaear yw Hon? i’w gweld yn Nhŷ Pawb rhwng 2 Ebrill a 24 Mehefin.
Bydd yr arddangosfa, sy’n cynnwys gwaith gan ddeg o artistiaid gwahanol, yn archwilio beth allai ein planed edrych fel yn y dyfodol, gyda ffocws cryf ar newidiadau amgylcheddol ac ecolegol. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys gwaith celf sy’n canolbwyntio’n benodol ar Wrecsam, yn ogystal â gweithiau eraill sy’n canolbwyntio ar themâu byd-eang.
Bydd Ai’r Ddaear yw Hon? yn apelio at unigolion sydd â diddordeb mewn ffuglen-wyddonol a’r amgylchedd.
Ond rydym yn awyddus i ddenu unrhyw un sydd â diddordeb mewn celfyddydau yn Wrecsam, ac unrhyw un sydd wedi dangos diddordeb yn Nhŷ Pawb yn ystod ei ddatblygiad, gan y bydd yr arddangosfa hefyd yn gyfle delfrydol i arddangos galluoedd yr oriel a’r gofodau celf newydd.
“Carreg filltir bwysig iawn”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Bydd Ai’r Ddaear yw Hon yn nodi carreg filltir bwysig iawn yn hanes celfyddydol Wrecsam, rydym wedi bod yn gweithio tuag at y foment hon am nifer o flynyddoedd.
“Yn bwysicach fyth, fe fydd yr arddangosfa yn ddathliad ar gyfer Wrecsam i gyd a dylid ymfalchïo ynddi wrth i ni agor drysau Tŷ Pawb i’r byd.
“Mae hon yn arddangosfa uchelgeisiol yn llawn gweithiau cyfoes, bydd yn arddangos yr orielau ardderchog newydd wrth fynd i’r afael â phryderon cyfoes a phwysig. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Tŷ Pawb i drafod materion cymdeithasol a dinesig drwy gelfyddydau gweledol.
Yn dilyn Ai’r Ddaear yw Hon?, bydd Tŷ Pawb yn arddangos arddangosfa deithiol o Gasgliad y Cyngor Celfyddydau.
Yn dilyn yr arddangosfeydd hyn, yn ddiweddarach yn 2018, bydd Agored Wrecsam yn dychwelyd, ar y cyd â Phrosiect THIS, i orielau Tŷ Pawb a Undegun.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT