Erthygl Gwadd Eisteddfod
Amser:
Bydd yr orymdaith yn ymgynnull erbyn 09:45 ym maes parcio Campws Iâl, Coleg Cambria y tu allan i Ganolfan Camu. Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 10:00.
Bydd y seremoni ei hun yn cael ei chynnal am 10:45 yn Llwyn Isaf, sydd wedi’i leoli’n agos at Neuadd y Dref a Choleg Cambria.
Beth yw’r Cyhoeddi?
Yn draddodiadol, mae’r Orsedd yn cyhoeddi’r bwriad Eisteddfod i ymweld ag ardal o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn cychwyn y Brifwyl. Yn ogystal, dyma pryd y cyhoeddir y Rhestr Testunau, sef y rhestr o gystadlaethau a gwybodaeth i unrhyw un sy’n dymuno mynd ati i gystadlu’r flwyddyn nesaf.
Yr Archdderwydd, sef pennaeth yr Orsedd sy’n arwain y seremoni draddodiadol hon, gyda chadeirydd y pwyllgor gwaith lleol yn cyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd. Unwaith y mae’r copi wedi’i rannu, mae’r wybodaeth yn gyhoeddus a’r gyfrol yn mynd ar werth mewn siopau ar hyd a lled Cymru.
Mae criw o blant y dalgylch yn cymryd rhan yn y seremoni hefyd, gan ddawnsio i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod. Mae’r Ddawns yn rhan liwgar o holl seremonïau’r Orsedd ac wedi’i seilio ar batrwm casglu blodau o’r caeau.
Yn unol â thraddodiad, cynhelir gorymdaith, gan gynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau a chymdeithasau lleol ynghyd â Gorsedd Cymru, i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal, a chyflwyno’r ardal i’r Eisteddfod.
Mae’r Orsedd yn gyfrifol am y seremonïau yn ystod wythnos yr Eisteddfod, sydd yn rhan o’r ŵyl ehangach sy’n ddathliad lliwgar, croesawgar, cyfeillgar a chynhwysol o’n diwylliant a’n hiaith yma yng Nghymru.