Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Busnesau Lletygarwch Wrecsam yn paratoi ar gyfer Tymor Newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Busnesau Lletygarwch Wrecsam yn paratoi ar gyfer Tymor Newydd
Pobl a lleBusnes ac addysg

Busnesau Lletygarwch Wrecsam yn paratoi ar gyfer Tymor Newydd

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 22, 2024 10:39 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Wexham Hospitality businesses
RHANNU

Yn ddi-os, mae’n gyfnod cyffrous i fusnesau lletygarwch Wrecsam gyda’r addewid o fwy o dwristiaid o dramor a diddordeb o’r newydd yn y ddinas, yn bennaf oherwydd llwyddiant ysgubol y gyfres ddogfen Welcome to Wrexham.

Yn ddiweddar, bu’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, yn siarad gyda nifer o gwmnïau twristiaeth ar draws y fwrdeistref sirol, er mwyn dangos cefnogaeth barhaus yr Awdurdod a cheisio’u barn cyn yr hyn sy’n argoeli i fod yn dymor ymwelwyr prysur.

Ar Gae Ras Bangor Is-y-Coed, roedd y cyfarwyddwr marchnata, Nicola Myers a rheolwr y cae, Paddy Chesters, yn edrych ymlaen at dymor prysur o rasys a oedd o’u blaenau, gan fod Bangor yn cynnig amgylchedd rasio mwy hamddenol a rhaglen o weithgareddau i’r teulu dros yr haf. Cynhelir 13 o gemau rasio cyffrous yn ystod 2024, ac mae’r cyfleusterau cyfarfod a chynadledda yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan gynnig rhai o’r mannau mwyaf a mwyaf modern yn yr ardal ar ddiwrnodau lle nad oes rasys.  

Siaradodd Chris Davies o Gaffi Wylfa yn y Waun am ei obeithion ar gyfer y tymor i ddod a phoblogrwydd cynyddol y Waun. Meddai Chris, “Mae’n debyg ein bod ni newydd weld ein blwyddyn brysuraf erioed yma yng Nghaffi Wylfa, diolch i’r gymuned leol ac ymwelwyr â’r Safle Treftadaeth y Byd cyfagos, yn arbennig grwpiau cerdded a beicio, cyn iddynt gychwyn ar hyd y gamlas neu Ddyffryn Ceiriog.  

“Y tu ôl i’r llenni dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn addasu ein busnes, er mwyn sicrhau ein bod ni’n parhau i ddarparu gwasanaeth i’r gymuned leol, ac nid twristiaid yn unig. Mae gwneud newidiadau wedi bod yn rhan fawr o’n bywydau ers y pandemig ac wrth lwc rydym wedi bod yn llwyddiannus hyd yma, gyda gwasanaethau danfon i’r cartref, mwy o offer cegin effeithlon a chreu man awyr agored mwy – ac mae hyn oll wedi arwain at fwy o ymwelwyr a chwsmeriaid yn ailymweld, sy’n hynod bwysig i ni.”

“Wrecsam yw’r lle i fuddsoddi”

Yn dilyn yr ymweliadau, ychwanegodd y Cynghorydd Williams, “Mae ymgysylltu’n barhaus â’n sector lletygarwch a deall y materion y maent yn eu hwynebu gyda’r sefyllfa economaidd heriol bresennol i fusnesau, wedi bod yn rhan hanfodol o’m rôl i.  Byddaf yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru ynghylch yr holl bryderon y maent yn tynnu fy sylw atynt.”

“Rydym yn rhannu’r neges ledled y byd, mai Wrecsam yw’r lle i fuddsoddi a bod yma ddiddordeb brwd mewn cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae’n bwysig bod busnesau lletygarwch yn gwybod fy mod i, ein tîm busnes a’n partneriaeth leol, Dyma Wrecsam, yma i’w cefnogi a’u helpu i ddatrys unrhyw faterion, fel bod modd iddynt ganolbwyntio ar yr hyn y maent yn wych am ei wneud – sef cynnig profiad ardderchog i gwsmeriaid!”

Wrexham

Y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, Joe Bickerton, Rheolwr Twristiaeth Cyngor Wrecsam a Paddy Chesters, Rheolwr y Cae – Rasys Bangor Is-y-Coed.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Bydd buddsoddiad gwerth sawl miliwn yn troi Hen Lyfrgell Wrecsam mewn i bwerdy diwydiannau creadigol

Rhannu
Erthygl flaenorol Investment Scam Property Money Galw ar Fusnesau Wrecsam – Ydych chi’n gymwys i wneud cais i’r Gronfa Paratoi at y Dyfodol?
Erthygl nesaf Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025-ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024 Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025-ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English