Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025-ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025-ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024
Pobl a lle

Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025-ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024

Diweddarwyd diwethaf: 2024/04/22 at 12:27 PM
Rhannu
Darllen 2 funud
Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025-ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024
RHANNU

Erthygl Gwadd Eisteddfod

Amser: 

Bydd yr orymdaith yn ymgynnull erbyn 09:45 ym maes parcio Campws Iâl, Coleg Cambria y tu allan i Ganolfan Camu. Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 10:00.

Bydd y seremoni ei hun yn cael ei chynnal am 10:45 yn Llwyn Isaf, sydd wedi’i leoli’n agos at Neuadd y Dref a Choleg Cambria. 

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Beth yw’r Cyhoeddi? 

Yn draddodiadol, mae’r Orsedd yn cyhoeddi’r bwriad Eisteddfod i ymweld ag ardal o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn cychwyn y Brifwyl.  Yn ogystal, dyma pryd y cyhoeddir y Rhestr Testunau, sef y rhestr o gystadlaethau a gwybodaeth i unrhyw un sy’n dymuno mynd ati i gystadlu’r flwyddyn nesaf. 

Yr Archdderwydd, sef pennaeth yr Orsedd sy’n arwain y seremoni draddodiadol hon, gyda chadeirydd y pwyllgor gwaith lleol yn cyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd.  Unwaith y mae’r copi wedi’i rannu, mae’r wybodaeth yn gyhoeddus a’r gyfrol yn mynd ar werth mewn siopau ar hyd a lled Cymru.

Mae criw o blant y dalgylch yn cymryd rhan yn y seremoni hefyd, gan ddawnsio i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod.  Mae’r Ddawns yn rhan liwgar o holl seremonïau’r Orsedd ac wedi’i seilio ar batrwm casglu blodau o’r caeau.  

Yn unol â thraddodiad, cynhelir gorymdaith, gan gynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau a chymdeithasau lleol ynghyd â Gorsedd Cymru, i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal, a chyflwyno’r ardal i’r Eisteddfod. 

Mae’r Orsedd yn gyfrifol am y seremonïau yn ystod wythnos yr Eisteddfod, sydd yn rhan o’r ŵyl ehangach sy’n ddathliad lliwgar, croesawgar, cyfeillgar a chynhwysol o’n diwylliant a’n hiaith yma yng Nghymru.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wexham Hospitality businesses Busnesau Lletygarwch Wrecsam yn paratoi ar gyfer Tymor Newydd
Erthygl nesaf Paratowch i gael hwyl! Mae Diwrnod Chwarae 2024   Paratowch i gael hwyl! Mae Diwrnod Chwarae 2024  

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau Gorffennaf 15, 2025
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English