Mae yna newyddion da i ddarparwyr gofal plant ar draws Wrecsam wrth i Lywodraeth Cymru lansio grant newydd sbon – Grant Darparwyr Gofal Plant – i helpu darparwyr gofal plant i barhau i weithredu ac ailagor yn gynaliadwy.
Mae Wrecsam wedi derbyn dros £242,000 i gefnogi’r lleoliadau hyn. Bydd y grant yn helpu darparwyr i fod yn gynaliadwy, gan gynnwys lleoliadau mewn ysgolion.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Meddai’r Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant:
Y pandemig wedi cael effaith ddrwg ar nifer o leoliadau gofal plant
“Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, yn fwy nag erioed o’r blaen, rydym ni wedi gweld pa mor bwysig ydi cael gofal plant lleol digonol ac o ansawdd da ar gyfer lles teuluoedd, yr economi leol a’r plant.
“Mae hyn yn newyddion da iawn i Wrecsam gan fod llawer o leoliadau gofal plant, sy’n cael eu rhedeg am y nesaf peth i ddim er mwyn cadw’r prisiau yn fforddiadwy i rieni, wedi’u heffeithio’n ddrwg iawn gan y pandemig ac yn debygol o gael trafferth ailagor a bod yn gynaliadwy fel arall.”
Pwrpas y grant ydi cefnogi busnesau gofal plant cofrestredig drwy ddarparu cymorth llif arian ar unwaith i helpu i wneud iawn am ganlyniadau haint Covid-19 a’r cyfnod clo.
Bydd y Grant Darparwyr Gofal Plant yn helpu’r busnesau gofal plant hynny sydd wedi methu manteisio ar gynlluniau eraill ac yn ategu’r mesurau Covid-19 eraill sy’n cefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a chyrff elusennol yng Nghymru. Gall ddarparwyr wneud cais am hyd at £5,000 ar ffurf taliad untro.
Gallwch ymgeisio am y grant ar-lein rŵan:
Y dyddiad cau ydi 31 Hydref 2020.
YMGEISIWCH RŴAN