Wrth i’r gwaith ar yr Archfarchnad Aldi newydd yn Rhiwabon dynnu at ei derfyn, mae’n bryd am y gwaith o roi wyneb newydd ar y gylchfan ar yr A539/B5605.
Mae’r gwaith hwn yn golygu bod angen cau’r gylchfan yn llwyr. Fodd bynnag, gan fod llif traffig yn sylweddol is yn y lleoliad hwn dros nos, cytunwyd y bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 7pm a 6am o ddydd Llun, 10 Mehefin ac maent wedi eu cynllunio am 5 noson yn olynol
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Yn amlwg, bydd rhywfaint o sŵn ag aflonyddwch i’r trigolion lleol, ond gwneir pob ymdrech i sicrhau fod cyn lleied â phosibl o amhariad. Dylai’r trigolion hynny a effeithir arnynt dderbyn llythyr gan y contractwr yn rhoi gwybod iddynt am y gwaith a’r amhariad posibl.
Mae Arriva wedi cael eu hysbysu am y newidiadau hyn ond yn anffodus bydd y gwaith hwn yn effeithio ar eu gwasanaethau bws gyda’r nos, rhwng Wrecsam a Llangollen a Wrecsam a Chroesoswallt.
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU