Community Sport

Mae ychydig newyddion da i chwaraeon cymunedol wrth i Chwaraeon Cymru gyhoeddi eu Grant Cynnydd (Progress Grant) newydd a fydd yn darparu cyllid o hyd at £50,000 er mwyn helpu i glybiau a gweithgareddau fod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Nod y grant hwn yw helpu clybiau cymunedol i fynd i’r afael ag un neu fwy o’r 3 maes canlynol:

  • Herio anghydraddoldeb
  • Creu datrysiadau hir-dymor er mwyn bod yn fwy cynaliadwy
  • Defnyddio dulliau gweithredu arloesol

Mae mwy o wybodaeth ar gael o’u Canolfan Gymorthb

Gallai olygu cyllid tuag at:

  • Cyfleusterau
  • Technoleg
  • Addysg hyfforddwyr
  • Offer

Mae’r grant hwn yn bosib diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.

Gallwch wneud cais ar-lein Yma

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

Lawrlwythwch yr ap GIG