Ydych chi’n sefydliad sy’n gweithio gydag oedolion diamddiffyn, yn grŵp cymunedol sydd eisoes wedi’i sefydlu, neu’n rhywun sydd â syniad da? Os felly, a wyddoch chi fe allech fod yn gymwys am Grant Cynhwysiant Cymunedol?
Crëwyd y Grant Cynhwysiant Cymunedol yn 2012 i wella bywydau pobl hŷn sy’n byw yn Wrecsam. Ac oherwydd llwyddiant y grant hwn, mae’r meini prawf cymhwysedd bellach wedi newid i ganiatáu i’r grant gael ei ddefnyddio i gefnogi oedolion gydag anableddau corfforol, synhwyraidd neu ddysgu, yn ogystal ag unigolion â phroblemau iechyd meddwl a gofalwyr.
Pobl hŷn ac oedolion diamddiffyn
Mae’r grant yn cefnogi cyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer oedolion ac mae’n galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain am gyfnodau hwy. Mae cyllid, sydd yn amrywio o £200 – £2,500, ar gael i gefnogi’r gwaith o sefydlu a/neu weithgareddau cynaliadwy sy’n seiliedig yn y gymuned sydd yn lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd (gyda ffocws ar ardaloedd gwledig), trwy gefnogi pobl i gynnal neu adennill cysylltiadau cymdeithasol a galluogi pobl i gymryd rhan yn eu cymuned leol.
Nid yn unig y mae ailgysylltu unigolion ynysig ac unig yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau oedolion hŷn a diamddiffyn o ran eu hiechyd a lles emosiynol, ond mae hefyd yn cefnogi’r gymuned trwy gael gafael ar eu cyfalaf economaidd a chymdeithasol.
Mae wedi helpu dros 100 o grwpiau ar draws Wrecsam
Nod y grant yw cefnogi gweithgareddau sy’n seiliedig yn y gymuned a chlybiau cinio. Hyd yn hyn, mae wedi helpu dros 100 o grwpiau ar draws y fwrdeistref sirol, gan gynnwys grwpiau ymarfer corff, gwylio adar, dosbarthiadau celf, grwpiau ffotograffiaeth a llawer, llawer mwy.
Cysylltwch â ni
Mae ffurflenni cais ar gael ar gais trwy e-bost neu ffôn; mae’r manylion cysylltu isod.
Cysylltwch â’r Tîm Comisiynu, Cyngor Wrecsam ar 01978 292066 i gael sgwrs anffurfiol neu i gael rhagor o wybodaeth.
Mae ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd ar gael trwy anfon e-bost i: commissioning@wrexham.gov.uk