Wrexham

Mae cyfleuster marchnad, cymuned a chelf newydd Wrecsam wedi derbyn sylw cenedlaethol wrth i bapur newydd y Guardian roi cymeradwyaeth fawr iddo am ei weledigaeth bensaernïol wrth greu gofod cymunedol i bawb ei ddefnyddio.

“Tŷ Pawb review – an art gallery that truly is everybody’s house”

Dim ond 5 mis sydd ers i’r prosiect arloesol agor ei drysau i’r cyhoedd, ac mae’n prysur ddod yn un o brif lefydd y rhanbarth i ymweld ag ef.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Mae croeso i bawb yn Nhŷ Pawb, gydag arddangosfeydd cenedlaethol, perfformiadau cerddorol a gigs, dosbarthiadau Cymraeg, cinio blasus a chyfle i bori drwy stondinau’r farchnad.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Mae’n wych gweld sut mae Tŷ Pawb yn cymryd ei le ar y sin gelf rhanbarthol a lleol. Roedd nifer yr ymwelwyr dros wyliau’r haf tu hwnt i’r disgwyliadau ac roedd rhan fwyaf o’r diwrnodau’n ferw o weithgareddau ar gyfer plant o bob oed. Mae digon wedi’i drefnu yn ystod yr hydref a misoedd y gaeaf hefyd.”

Heb ymweld â Thŷ Pawb eto? Galwch heibio – cymrwch olwg yma ar beth sydd ‘mlaen, neu beth am ddod draw i bori drwy stondinau’r farchnad neu gael tamaid i’w fwyta?

I ddarganfod beth sydd ‘mlaen yn Nhŷ Pawb, ewch i’r wefan
yma

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION