Rydym yn falch ein bod wedi cael cais llwyddiannus am nawdd o £413,000 gan Lywodraeth Cymru o’r Gronfa Teithio Llesol.
Bydd y nawdd yn gweld cynlluniau hirdymor yn symud ymlaen i wella Teithio Llesol ar Ffordd Treftadaeth, Ffordd Gyswllt Brymbo, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a Choridor Ffordd yr Wyddgrug, yn ogystal â gwelliannau i gyffordd yr A483 ar gyffordd 4 (Ffordd Rhuthun) a Chyffordd 5 (Ffordd yr Wyddgrug).
Gwelliannau i gyffordd yr A483 ar Gyffordd 4 (Ffordd Rhuthun) a Chyffordd 5 (Ffordd yr Wyddgrug), Ffordd Treftadaeth, Ffordd Gyswllt Brymbo, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a Choridor Ffordd yr Wyddgrug.
Beth yw Teithio Llesol?
Pwrpas y Gronfa Teithio Llesol yw cynyddu lefelau teithio llesol, gwella iechyd a lles, gwella ansawdd aer, lleihau allyriadau carbon, cysylltu cymunedau a gwella mynediad teithio llesol i’r gwaith, addysg a gwasanaethau allweddol, cyrchfannau a chludiant cyhoeddus.
Ar hyn o bryd, mae preswylwyr Wrecsam yn gwneud 10% o deithiau llesol i’r gwaith yn unig (9% wrth gerdded ac 1% wrth feicio) sy’n is na’r cyfartaledd yn genedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dyma newyddion gwych, a hoffwn diolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth gyda’r nawdd Teithio Llesol ac i’n staff am eu gwaith caled wrth baratoi cais mor llwyddiannus.
“Hoffwn weld mwy o bobl yn gadael eu ceir gartref ac yn cerdded a beicio, ac mae Teithio Llesol yn allweddol wrth symud hyn ymlaen. Mae llawer o waith i’w wneud, ond mae’n galonogol ein bod nawr yn gallu parhau gydag ychydig o’r prif welliannau sy’n mynd rhagddynt yn Wrecsam.”
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN