Yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol heddiw, cytunodd aelodau i gyhoeddi Hysbysiad Statudol ynghylch cynyddu’r nifer o ddisgyblion a fydd yn gallu mynychu Ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt.
Y bwriad ydi adeiladu estyniad i’r adeilad presennol i greu lle ar gyfer 105 disgybl arall (15 disgybl ym mhob grŵp blwyddyn). Byddai’r flwyddyn gyntaf o gynnydd ym mis Medi 2019 ar gyfer y dosbarth Meithrin (15 o leoedd ychwanegol) a’r dosbarth Derbyn (15 o leoedd ychwanegol), byddai’r cynnydd mewn capasiti yn cael ei gyfyngu i’r grwpiau blwyddyn hynny’n unig.
Bydd y nifer derbyn yn cynyddu 15 lle yn flynyddol (o 30 i 45) ar gyfer llefydd yn y dosbarth meithrin a dosbarth derbyn o 2019 ymlaen, a bydd y dosbarthiadau hyn yn symud drwy’r ysgol nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm capasiti sef 315 (a 45 o leoedd yn y feithrinfa).
Os na fydd unrhyw broblemau, fe ddylai’r gwaith ddechrau ar y safle yn yr haf.
Roedd pêl-droed yn uchel ar yr agenda hefyd, a chytunodd aelodau i symud ymlaen â chynlluniau i greu canolfannau peilot ar gyfer pêl-droed mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru (Ymddiriedolaeth) a Chymdeithas Bêl-droed Gogledd Ddwyrain Cymru.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys
- Gwella porth Ffordd yr Wyddgrug sy’n arwain i mewn i’r dref, gan gynnwys yr orsaf drenau a’r Cae Ras;
- Canolfan datblygu pêl-droed newydd ym Mharc y Glowyr;
- Cynlluniau – trafodwyd yn ddiweddar gan Gynulliad Cymru – i ddatblygu Amgueddfa Pêl-droed Cenedlaethol yn Wrecsam;
- Gwaith gan y Cyngor a Chlwb Pêl-droed Wrecsam i sicrhau lleoliad parhaol ar gyfer cae hyfforddi
Os ceir cymeradwyaeth gan y Bwrdd, byddai’r prosiect peilot – wedi’i gefnogi gan £50,000 gan Lywodraeth Cymru – yn rhedeg am flwyddyn, ac wedyn cael ei asesu i weld pa mor llwyddiannus oedd model y ganolfan.
Prif nod y bartneriaeth fyddai helpu clybiau i fod yn fwy hunangynhaliol, gwella cyfleusterau cymunedol a rhoi cyfle a chyfleusterau i bobl ifanc ac oedolion sydd eu hangen arnynt i wella eu hiechyd.
Gallwch ddarllen mwy am y cynlluniau ar gyfer pêl-droed yn y fwrdeistref sirol yma:
Yn yr un cyfarfod, pleidleisiodd yr aelodau i argymell cyllideb 2019/20 i’r Cyngor gyda gwariant net o £236,853k yn arwain at gynnydd yn nhreth y cyngor band D o 5.5% – £1,153.13. Bydd y Cyngor yn cwrdd ar 20 Chwefror i osod y gyllideb derfynol.
Trafodwyd dyfodol adeilad Erlas hefyd a chytunodd aelodau i fwrw ymlaen gydag astudiaeth ecolegol ar y safle ac i symud ymlaen gyda chynlluniau i ddymchwel y tŷ a’r bythynnod er mwyn gallu defnyddio’r safle yn y dyfodol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR