Byddwch chi wedi gweld y newyddion am Storm Dudley ac Eunice sy’n debygol o effeithio ar Wrecsam o ddydd Mercher.
Rydym ni’n disgwyl glaw trwm iawn ac mae rhybudd tywydd oren ar waith dros y dyddiau nesaf.
Mae rhybudd llifogydd ar gyfer Gwastatir Dyffryn Dyfrdwy.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am hyn a newyddion am y ddwy storm, dilynwch y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru ar Twitter.
Storms Dudley and Eunice are to impact the UK this week, bringing high winds and the potential for some snow.
Get the latest outlook 👇 and follow @metoffice for more updates. #StormDudley #StormEunice #TwoStorms
— Met Office News (@metofficenews) February 15, 2022
Sut i nodi problem
Wrth i ni obeithio’r budd Wrecsam yn osgoi’r waetha o’r tywydd, fedrwch nodi unrhyw broblem (fel difrod storm, coed wedi disgyn ayyb) i’r cyngor ar y rhifau dilynol:
- Oriau swyddfa (8.30yb-5yp) 01978 298989
- Tu allan i oriau swyddfa : 01978 292055
- Atgyweiriadau tai i denantiaid y cyngor (24awr) 01978 298993
Unrhyw broblemau gyda thoriadau mewn pŵer gall nodi wrth alw 105 (Mae ‘powercut’ 105 yn wasanaeth rhad ac am ddim a fu’n eich cysylltu â’ch gweithredwr lleol am help a chymorth).
Cofiwch os oes bygythiad uniongyrchol i fywyd yn ystod tywydd drwg, dylech o hyd galw 999.
Meddai’r Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae timau amgylchedd y cyngor allan yn y fwrdeistref sirol yn gwirio ardaloedd problemus a rhannau o ffyrdd sy’n tueddu i ddioddef o lifogydd. Rydym ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i baratoi.
“Ni allwn wybod faint yn union y bydd y storm yn effeithio ar Wrecsam, ond mae ein timau’n barod i ymateb i unrhyw broblemau lleol y bydd yn eu hachosi.
“Mae’n bwysig bod pawb yn cadw’n ddiogel ac yn cymryd gofal ychwanegol dros y diwrnodau nesaf yn ystod y tywydd garw.”