Ydych chi’n edrych am ffordd hwyliog o gadw’n heini rŵan bod y gaeaf ar y ffordd?
Ydych chi erioed wedi ystyried cychwyn chwarae rygbi, ond ddim awydd y cleisiau?
Mae’n tîm Wrecsam Egnïol yn cynnal cyfres o sesiynau rygbi cyffwrdd i ferched yng Nghanolfan Hamdden Queensway, Wrecsam, bob nos Lun rhwng 6.30pm a 7.30pm.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Bydd y gemau di gyswllt yn cynnwys cylchedau syml, rownderi rygbi a rygbi cerdded.
Mae’r cwrs wythnosol hwn yn rhedeg tan fis Tachwedd, ac mae croeso i unrhyw un sydd â ddiddordeb ymuno â ni unrhyw bryd.
Mae’r cwrs yn digwydd fel rhan o ‘Get Out, Get Active’ – cyfres o sesiynau gweithgareddau a ffitrwydd sy’n canolbwyntio ar ferched.
Mae’r sesiynau cyntaf am ddim, gyda chost o £2 y sesiwn wedi hynny.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Byddai’r gyfres hon o weithgareddau yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw ddynes sydd am gymryd rhan mewn rhywbeth mor egnïol â rygbi, ond heb yr anafiadau sy’n dod o chwarae’r gêm honno ei hun.
“Dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â Wrecsam Egnïol”.
I gadw lle, neu ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â Wrecsam Egnïol ar y ffôn ar 07976581243 neu ar –ebost: activewrexham@wrexham.gov.uk.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION