Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cofio’n trychineb waethaf… trychineb Pwll Glo Gresffordd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cofio’n trychineb waethaf… trychineb Pwll Glo Gresffordd
Pobl a lle

Cofio’n trychineb waethaf… trychineb Pwll Glo Gresffordd

Diweddarwyd diwethaf: Medi 21, 2018 11:05 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Gresford Memorial Disaster
Gresford Colliery disaster Memorial pit head
RHANNU

Dychmygwch…

Cynnwys
  • ‘Yn union fel uffern’
  • Y canlyniadau
  • Cofio, 84 mlynedd yn ddiweddarach…

Mae’n nos Wener, 21 Medi, 1934. Mae 266 o ddynion yn mynd i lawr i adran Dennis pwll glo Gresffordd er mwyn cychwyn eu shifft. Mae’n brysurach nac arfer gan bod llawer ohonynt yn ‘dyblu fyny’ er mwyn bod yn rhydd i wylio gêm bêl-droed Wrecsam ar y prynhawn dydd Sadwrn. Yn anffodus, dim ond 6 ohonyn nhw fydd yn dychwelyd.

Am 2:08am fore Sadwrn (22 Medi), rhwygodd ffrwydriad drwy’r pwll glo, gan ladd nifer fawr o lowyr.

Mae Edward William, Cynorthwywr Injan yn Dennis ar y pryd yn cofio: “Daeth yn nes fel taran ac yna aeth pobman yn ddu. Allech chi ddim gweld unrhyw beth.”

‘Yn union fel uffern’

Anfonwyd dros 200 o weithwyr achub mewn ymdrech i achub y glowyr. Dim ond 11 corff a adferwyd – a thri o’r rheiny yn perthyn i’r tîm achub cyntaf. Dywedodd un o’r achubwyr bod y pwll glo ‘yn union fel uffern’.

Pan gyrhaeddodd y newyddion y dref, ymgasglodd torfeydd o amgylch y pwll – menywod a phlant yn aros am anwyliaid na fyddent byth yn dod adref.

Wedi 40 awr o waith caled daeth yn amlwg i’r achubwyr nad oedd neb ar ôl yn fyw i’w hachub, felly penderfynwyd cau’r siafftiau am 6pm ar y prynhawn Sul.

Y canlyniadau

Roedd trychineb Pwll Glo Gresffordd yn un o drychinebau gwaethaf Wrecsam… ond nid oes llawer o sylw wedi ei roi i ganlyniadau’r drychineb, a’r effaith a gafwyd ar deuluoedd a chydweithwyr y dioddefwyr. O ganlyniad i’r ffrwydriad, roedd 200 yn weddw, 800 heb dad a 1,600 yn ddi-waith.

Roedd hyn mewn cyfnod lle nad oedd yr un cyfleoedd gan fenywod ag oedd gan ddynion. Roedd colli gŵr yn golygu mwy na bod yn wraig weddw alarus… roedd yn golygu bod yn weddw gyda’r cyfrifoldeb o ddarparu ar ei chyfer ei hun a’i phlant heb unrhyw ffynhonnell incwm.

Bu’n rhaid i weddill y dynion a gyflogwyd yn y pwll glo edrych am waith arall – yn aml heb unrhyw lwc. Roedd y dyfodol i’w weld yn ddigalon iawn i Wrecsam; byddai rhai yn ei chael hi’n anodd goroesi hyd yn oed. Byddai’n chwe mis tan i’r pwll ail agor.

Bu’r drasiedi yn y newyddion cenedlaethol a derbyniodd gydnabyddiaeth gan y Brenin. Lledodd y gair am y teuluoedd oedd yn ei chael hi’n anodd a sefydlwyd cronfa gymorth er mwyn helpu’r rheiny oedd mewn angen. Codwyd mwy na £550,000, fodd bynnag ni ellid gwneud iawn am y bywydau a gollwyd.

Cofio, 84 mlynedd yn ddiweddarach…

Eleni mae hi’n 84 mlynedd ers i 266 o ddynion a bechgyn golli eu bywydau.

Cynhelir y gwasanaeth coffa blynyddol i nodi Trychineb Pwll Glo Gresffordd ddydd Sadwrn, 22 Medi am 11am ger Cofeb Olwyn y Glowyr, Bluebell Lane, Pandy. Bydd y gwasanaeth yn fyr ac anffurfiol, ac mae croeso i bawb fynychu.

Hefyd os hoffech ddarganfod mwy am y digwyddiad trasig hwn, mae’n werth ymweld ag Amgueddfa Wrecsam.

Bydd Wrecsam bob amser yn cofio…

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mwynhewch hen straeon chwedlonol Cymru dros Galan Gaeaf Mwynhewch hen straeon chwedlonol Cymru dros Galan Gaeaf
Erthygl nesaf Cymerwch ran! Cymerwch ran!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English