Mae Recycle Your Electricals yn galw ar aelwydydd ar draws y DU i ymuno â ‘Her Fawr y Ceblau’ i ailgylchu un filiwn o geblau, a helpu i leihau e-wastraff.
Mae’r fenter yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol E-Wastraff eleni (14 Hydref).
Mae gwaith ymchwil newydd a gomisiynwyd gan Recycle Your Electricals wedi canfod bod dau o bob pump o gartrefi’r DU (39%) yn cadw eu heitemau trydanol bach mewn drôr sy’n cynnwys casgliad cudd o eitemau trydanol dieisiau a thechnoleg wedi torri sydd i’w canfod mewn nifer o aelwydydd.
Dywedodd mwy na chwarter o ymatebwyr sy’n cadw eitemau trydanol dieisiau (28%) eu bod yn teimlo embaras, dicter neu rwystredigaeth oherwydd yr eitemau bach hyn sy’n cael eu storio yn eu cartrefi.
Mae’r gwaith ymchwil hefyd yn dangos bod mwy na thraean o gartrefi’r DU (35%) sy’n cadw eitemau trydanol yn gwneud hynny oherwydd nad ydynt yn gwybod sut i gael gwared arnynt yn iawn.
Mae mwy na thraean o ymatebwyr (37%) yn gwirio am eitemau trydanol dieisiau lai nag unwaith y flwyddyn, a nod yr her yw rhoi ail fywyd i’r deunyddiau gwerthfawr sydd mewn ceblau, fel copr. Gellir ailgylchu copr a’i droi’n eitemau newydd fel tyrbinau gwynt a thechnoleg newydd fel ffonau symudol, gliniaduron, dyfeisiau llechen, oriorau clyfar.
Gyda miliynau o geblau mewn cartrefi yn y DU, mae Recycle Your Electricals wedi cyhoeddi Canllaw Ceblau defnyddiol. Gyda 35 o’r ceblau a ddefnyddir amlaf, mae’r canllaw yn defnyddio lluniau hawdd eu defnyddio i baru ceblau â’u heitemau trydanol gwreiddiol. Os nad yw’r eitemau neu’r ceblau’n gweithio bellach, neu os nad oes eu hangen, rhowch nhw mewn bag a’u hailgylchu!
Ailgylchwch hen eitemau trydanol yn eich canolfan ailgylchu leol
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym yn ychwanegu ein cefnogaeth i Her Fawr y Ceblau, ac rydym yn gwahodd ein preswylwyr i gymryd rhan trwy ailgylchu eu hen eitemau diangen. Mae banciau penodol ar gyfer eitemau trydanol yn y tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam.
“Os oes gennych eitemau trydanol mewn cyflwr da, gallwch eu rhoi i siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos. Gallwch gyfrannu i’r siop ailddefnyddio trwy unrhyw un o’r tair ganolfan ailgylchu. Siaradwch ag un o’r gweithwyr a gallant ddangos i chi lle i adael eich eitemau.”
Edrychwch ar ein gwefan i weld rhestr o bethau y gellir eu hailgylchu yn y canolfannau ailgylchu.
Gallwch wirio adnodd canfod cod post Recycle Your Electricals i ganfod eich man ailgylchu agosaf.
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu – Newyddion Cyngor Wrecsam