Dangoswch eich cefnogaeth i dîm pêl-droed Cymru yng ngemau Cwpan y Byd!
Rydym ni wedi uno â @GwylWalGoch i anfon negeseuon “Pob lwc” gan Wrecsam – cartref ysbrydol pêl-droed yng Nghymru – i dîm pêl-droed Cymru cyn iddynt gymryd rhan yng ngemau Cwpan y Byd eleni!
Gallwch ddangos eich cefnogaeth drwy fynd i’n gwefannau pwrpasol a gadael neges:
WalGochWrecsam.com : Negeseuon Cymraeg
RedwallWrexham.com : Negeseuon Saesneg
Rydym yn eich annog i anfon negeseuon yn Gymraeg neu Saesneg (neu beth am roi cynnig ar y ddwy iaith) i dîm pêl-droed Cymru!
Bydd y negeseuon sy’n dymuno’n dda yn cael eu danfon i garafán Cymru cyn iddynt ymadael i Qatar
Unwaith byddwch wedi anfon eich neges, cofiwch adael i eraill wybod drwy ddefnyddio #tag yr ymgyrch #WalGochWrecsam a dilyn #tagiau swyddogol Twrnamaint Cymru #TîmCymru2022 #TeamWales2022
Mae manylion pellach am y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn Wrecsam, sy’n dathlu tîm pêl-droed Cymru yng ngemau Cwpan y Byd, i’w gweld yma:
Ychydig o eiriau ac ymadroddion Cymraeg efallai y byddwch eisiau eu defnyddio yn eich neges:
Pob lwc = Good luck
Sgoriwch gôl = Score a goal
Pêl-droed = Football
Cymru = Wales
Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Cyng Mark Pritchard: “Hon fydd y tro cyntaf i ran fwyaf ohonom ni (yn cynnwys fy hun) yn gallu gwylio Cymru yn chwarae yn gemau terfynol Cwpan Y Byd. “Mae’r llwyddiant nodedig hon yn barod yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesa o chwaraewyr. “Hoffwn annog bawb i anfon neges o lwc i sgwad Cymru fel bod ein negeseuon yn cyrraedd carfan Cymru cyn iddynt ymadael i Qatar.”