Bydd y gyfnewidfa ddillad misol cyntaf i gael ei chynnal yng Nghymru yn cael ei chynnal yng nghanol tref Wrecsam ddydd Sadwrn. Nod y gyfnewidfa ydi mynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau ffasiwn cyflym. Trefnwyd “Swop Not Shop” gan sefydliad nid-er-elw newydd o’r enw The Wrexham Clothing Exchange.
Bydd modd i bobl gyfnewid dillad yn y digwyddiad sydd yn dechrau ddydd Sadwrn nesaf (12 Hydref) yn Hwb Menter Wrecsam yn Sgwâr y Frenhines. Rhwng 10am a 12pm gall unigolion ollwng eu heitemau ac yna mynd i ‘siopa’ am eu dillad ‘newydd’ o 1pm. Mae yna dâl mynediad bychan o £3 er mwyn i’r fenter nid-er-elw dalu am storio dillad, rheiliau ac offer yn y dyfodol.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Bydd modd i bobl gyfnewid dillad yn y digwyddiad sydd yn dechrau ddydd Sadwrn nesaf (12 Hydref) yn Hwb Menter Wrecsam yn Sgwâr y Frenhines. Rhwng 10am a 12pm gall unigolion ollwng eu heitemau ac yna mynd i ‘siopa’ am eu dillad ‘newydd’ o 1pm. Mae yna dâl mynediad bychan o £3 er mwyn i’r fenter nid-er-elw dalu am storio dillad, rheiliau ac offer yn y dyfodol.
Fe eglurodd Sylfaenydd Wrexham Clothing Exchange, Sharon Rogers, “Mae’r nod yn syml, gall pobl gael llond cwpwrdd o ddillad bob mis, arbed arian a helpu’r amgylchedd ar yr un pryd. Mae mwy na hanner yr holl ddillad newydd sy’n cael eu prynu yn mynd i safle tirlenwi o fewn 12 mis, mae hyn yn ffordd gyfeillgar a rhad ac addas ar gyfer yr amgylchedd i ni leihau ffasiwn cyflym a lleihau faint sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.
Fe ychwanegodd Sharon, “Gall ‘siopwyr’ ddod â’u dillad nad ydynt bellach yn eu gwisgo i gyfnewid am docynnau. Yna am 1pm, byddwn yn agor y digwyddiad cyfnewid ac fe allant ddewis eu dillad ail-law ‘newydd’ yn dibynnu ar sawl tocyn sydd ganddynt. Bydd unrhyw gredydau sydd ganddynt dros ben yn cael eu cario drosodd i fis nesaf.
Mae gennym eisoes lawer o ddillad o ansawdd da sydd wedi’u rhoi ar gyfer merched yn amrywio o faint 6 drwodd i 26. Mae gennym amrywiaeth o ddillad dynion hefyd. Teipiwch “Wrexham Clothing Exchange” mewn i Facebook i gael gwybod mwy.”
Dywedodd Ms Rogers, “Mae angen i ni ddiolch i lawer o bobl, Hwb Menter Wrecsam am y lleoliad, ein gwirfoddolwyr, Renew Sewcials gan y byddant yn cynnal caffi trwsio bychan, Abode Above, Off The Cuff, St Vincent a Sports Direct am gael benthyg y rheiliau dillad. Ian Lucas AS a fydd yn agor y digwyddiad yn swyddogol am 1pm a Maer Wrecsam, y Cynghorydd Rob Walsh. Ein cyfeillion yn Coffee Company Stryt y Brenin a Chymdeithas Gymdeithasol Stryt y Banc yn Wrecsam sydd yn cefnogi ein digwyddiad cyntaf yn garedig iawn trwy gynnig 50% i ffwrdd o bris diodydd poeth i bawb sy’n ‘siopa’ tra’n aros i’r digwyddiad agor.”
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Sharon Rogers 07947 068 678 wrexhamclothingexchange@gmail.com
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD