Mae prosiectau adeiladu ar draws Gogledd Cymru yn hynod boblogaidd â’r economi leol gan fod mwy a mwy o bobl ifanc yn sicrhau hyfforddiant a chyflogaeth drwy’r prosiectau hyn.
Gall pobl ifanc nad ydynt mewn gwaith, hyfforddiant neu addysg gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddiant “Get into Construction” a drefnir gan Ymddiriedolaeth y Tywysog a Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru.
Un unigolyn a gymerodd ran yn y rhaglen hon yw Christian Davies o Acton, Wrecsam sydd bellach wedi llwyddo i sicrhau swydd llawn amser â’r contractwr Wynne Construction yn adeiladu’r cyfleuster celfyddydau a marchnad newydd gwerth £4.5 miliwn yng nghanol y dref.
Yn ddiweddar, mynychodd Christian gyflwyniad gwobrau yn Wrecsam ac fe dderbyniodd ei dystysgrif.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
“Rwyf wedi llwyddo i sicrhau swydd llawn amser”
Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Christian:
“Mae’r cynllun hwn wedi bod yn ddewis ardderchog i mi. Roeddwn i’n arfer hawlio budd-daliadau a chefais wybod am y cynllun drwy’r Ganolfan Waith. Roedd y cwrs yn amrywiol ac roedd cyfle i ddysgu mewn amgylchedd dosbarth yn ogystal â gweithio ar y safle. Roedd y cwrs yn ddiddorol iawn ac yn llawn hwyl, rwyf wedi llwyddo i sicrhau swydd llawn amser felly rwyf ar ben fy nigon. Rwyf wedi mwynhau gweld pawb eto heddiw. Roedd rhaid i ni wneud cyflwyniad byr ac roeddwn yn eithaf nerfus am hynny.
(Christian Davies, Thomas Morris, Jonathon Rowe, Alleisha Carey, Gavin Ansonia, James Newnes gyda’r Cynghorydd Phil Wynn).
Roedd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg hefyd yn bresennol i longyfarch pawb a gymerodd ran. Dywedodd::
“Pleser o’r mwyaf oedd gweld a chlywed am lwyddiant y prosiect hwn, braf yw clywed am hanesion pobl ifanc wedi iddynt adael yr ysgol a symud ymlaen i fyd hyfforddiant neu gyflogaeth. Rwyf yn llwyr gefnogi’r Fframwaith a gobeithiaf ei weld yn mynd o nerth i nerth.”
Rhaid diolch i “Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru” am yr holl gyfleoedd hyn, mae’r fframwaith hefyd wedi derbyn canmoliaeth yn ddiweddar gan arweinwyr diwydiant. Crëwyd y Fframwaith yn 2014, ac ers hynny mae wedi darparu dull cost effeithiol i ganfod contractwyr i adeiladu ysgolion newydd ac adeiladau sector cyhoeddus eraill, yn ogystal â darparu buddion ar gyfer busnesau is-gontractio lleol a chymunedau.
“Crëwyd 29 o swyddi newydd parhaol”
Mae’r buddion i economi Gogledd Cymru yn cynnwys mwy na 7,800 awr o brofiad gwaith, 29 o swyddi parhaol newydd wedi’u creu ar gyfer unigolion di-waith, roedd 8,800 o ddisgyblion yn rhan o’r digwyddiadau ymgysylltu a 30 o leoliadau gwaith wedi’u sicrhau ar gyfer unigolion nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Y Tywysog.
Cynhelir y Fframwaith gan Gyngor Sir Ddinbych.
Dewch i wybod mwy am y prosiect hyfforddi hwn yn eich Canolfan Waith leol.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI