Mae Cymunedau am Waith a Mwy yma yn Wrecsam yn mynd o nerth i nerth ac wedi dal ati i weithredu ar-lein gydol y pandemig. Ers mis Awst y llynedd mae wedi helpu 280 o bobl i gael gwaith!
Mae llwyddiant Joe Cade yn ddim ond un enghraifft ardderchog o’r ffordd y mae’r rhaglen wedi agor drysau at yrfaoedd a swyddi newydd.
Atgyfeiriwyd Joe at Cymunedau am Waith a Mwy ym mis Medi’r llynedd ac nid oedd yn gwybod pa lwybr i’w ddilyn ar gyfer ei yrfa.
Cafodd Joe gefnogaeth ar unwaith gan Julie Edwards, un o fentoriaid Cymunedau am Waith a Mwy. Meddai Joe, “Roedd Julie’n wych, fe soniodd hi am gwrs gyrru wagen fforch godi imi a doeddwn i heb feddwl am hynny o’r blaen. Doeddwn i ddim yn siŵr ar y dechrau ond fe roddodd hi gefnogaeth imi a dwi’n falch ei bod wedi gwneud.”
Dywedodd Julie “Roedd Joe’n frwdfrydig ynglŷn â mynd i gyfeiriad hollol wahanol yn ei yrfa o gymharu â beth oedd ganddo mewn golwg i ddechrau, ac er mor anodd oedd y flwyddyn ddiwethaf fe dderbyniodd Joe heriau newydd nad oedd erioed wedi’u hystyried o’r blaen.”
Mae’r prosiect yn gweithio â Gwasanaethau Hyfforddiant Gatewen i ddarparu rhai o’n cyrsiau galwedigaethol fel hyfforddiant Wagen Fforch Godi ar gyfer gweithio mewn warws a’r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu.
Meddai Julian Hughes, Cyfarwyddwr Cwmni Gatewen: “Mae Joe rŵan yn ymuno â thîm cludo nwyddau Gatewen drwy gynllun KickStart y Llywodraeth, ac yn anelu at gwblhau’r cymhwyster Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant a’r rhaglen hyfforddi Hyfforddwyr Wagen Fforch Godi.
Meddai’r Cynghorydd Terry Griffiths, yr Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae Joe’n dyst i beth ellir ei gyflawni drwy’r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy.
“Rydym wedi canolbwyntio ar gyrsiau hyfforddiant byr i bobl ddysgu sgiliau sy’n brin yn lleol, sy’n golygu y cawn nhw waith yn fuan diolch i’r cysylltiadau gwaith agos sydd gennym â chyflogwyr lleol. Dyma lwyddiant bendigedig sy’n dangos ein bod ni ar y trywydd iawn.”
Mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi gweithio â 19 o gyflogwyr, gan gynnwys JCB, er mwyn darparu cyfleoedd am waith i’n cyfranogwyr neu roi cefnogaeth benodol iddynt â gwaith.
Ers mis Awst 2020 cynorthwywyd 280 o bobl i gael gwaith drwy’r rhaglen; mae 63 o bobl wedi ennill cymwysterau galwedigaethol gan gynnwys Cardiau CSCS, trwyddedau Wagen Fforch Godi, Cymorth Cyntaf, Ymwybyddiaeth o Asbestos, Trwyddedau Awdurdod y Diwydiant Diogelwch, Cymorth Dysgu, Cerbydau Nwyddau Ysgafn a Gofal Cymdeithasol, ac mae o leiaf 43 o bobl wedi mynd ymlaen i gael gwaith o ganlyniad uniongyrchol i’r hyfforddiant.
Meddai Craig Weeks, Rheolwr Cyffredinol JCB Transmissions yn Wrecsam, “Mae’n fendigedig medru cydweithio â Chyngor Wrecsam a Chymunedau am Waith a Mwy wrth gefnogi pobl leol i fynd yn ôl i fyd gwaith.”
Y cyrsiau hyn weithiau yw’r cymhwyster cyntaf y mae rhai pobl wedi’u hennill ers gadael ysgol, ac maent yn rhoi hwb mawr i hyder pobl wrth iddynt fynd ymlaen i wneud cyrsiau eraill neu ddod o hyd i waith yn syth.
Mae llawer o’r cyfranogwyr wedi elwa ar gynllun benthyciadau TG sydd wedi eu helpu i wneud hyfforddiant ar-lein a’i gwblhau. Cynigir y cynllun hwn dan nawdd Cymunedau Digidol Cymru, sy’n rhoi cyfarpar ar fenthyg am gyfnodau byr er mwyn helpu i leihau allgáu digidol.
Sut i gysylltu a dechrau ar eich ffordd at yrfa newydd
Mae’n haws nag erioed ichi gael mynediad i’r rhaglen a chael cymorth gyda gwaith gan Cymunedau am Waith a Mwy.
- Anfonwch neges destun at 66777 i gael dolen ar gyfer ffurflen atgyfeirio Cymunedau am Waith a Mwy. Yna bydd un o’r Swyddogion Brysbennu’n cysylltu â chi i gael gwybod pa gymorth sydd ei angen.
- Gallwch hefyd gysylltu â’r rhaglen drwy dudalen Facebook Cymunedau am Waith (neu Communities for Work).
- Anfonwch e-bost i cfw@wrexham.gov.uk
- Ffoniwch 07976 200413 neu 07976 200414.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN