Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cymunedau am Waith a Mwy yn helpu Joe i ddechrau gyrfa newydd????
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cymunedau am Waith a Mwy yn helpu Joe i ddechrau gyrfa newydd????
Busnes ac addysgY cyngor

Cymunedau am Waith a Mwy yn helpu Joe i ddechrau gyrfa newydd????

Diweddarwyd diwethaf: Medi 21, 2021 9:17 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Communities for Work
RHANNU

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yma yn Wrecsam yn mynd o nerth i nerth ac wedi dal ati i weithredu ar-lein gydol y pandemig. Ers mis Awst y llynedd mae wedi helpu 280 o bobl i gael gwaith!

Mae llwyddiant Joe Cade yn ddim ond un enghraifft ardderchog o’r ffordd y mae’r rhaglen wedi agor drysau at yrfaoedd a swyddi newydd.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Atgyfeiriwyd Joe at Cymunedau am Waith a Mwy ym mis Medi’r llynedd ac nid oedd yn gwybod pa lwybr i’w ddilyn ar gyfer ei yrfa.

Cafodd Joe gefnogaeth ar unwaith gan Julie Edwards, un o fentoriaid Cymunedau am Waith a Mwy. Meddai Joe, “Roedd Julie’n wych, fe soniodd hi am gwrs gyrru wagen fforch godi imi a doeddwn i heb feddwl am hynny o’r blaen. Doeddwn i ddim yn siŵr ar y dechrau ond fe roddodd hi gefnogaeth imi a dwi’n falch ei bod wedi gwneud.”

Dywedodd Julie “Roedd Joe’n frwdfrydig ynglŷn â mynd i gyfeiriad hollol wahanol yn ei yrfa o gymharu â beth oedd ganddo mewn golwg i ddechrau, ac er mor anodd oedd y flwyddyn ddiwethaf fe dderbyniodd Joe heriau newydd nad oedd erioed wedi’u hystyried o’r blaen.”

Mae’r prosiect yn gweithio â Gwasanaethau Hyfforddiant Gatewen i ddarparu rhai o’n cyrsiau galwedigaethol fel hyfforddiant Wagen Fforch Godi ar gyfer gweithio mewn warws a’r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu.

Meddai Julian Hughes, Cyfarwyddwr Cwmni Gatewen: “Mae Joe rŵan yn ymuno â thîm cludo nwyddau Gatewen drwy gynllun KickStart y Llywodraeth, ac yn anelu at gwblhau’r cymhwyster Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant a’r rhaglen hyfforddi Hyfforddwyr Wagen Fforch Godi.

Meddai’r Cynghorydd Terry Griffiths, yr Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae Joe’n dyst i beth ellir ei gyflawni drwy’r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy.

“Rydym wedi canolbwyntio ar gyrsiau hyfforddiant byr i bobl ddysgu sgiliau sy’n brin yn lleol, sy’n golygu y cawn nhw waith yn fuan diolch i’r cysylltiadau gwaith agos sydd gennym â chyflogwyr lleol. Dyma lwyddiant bendigedig sy’n dangos ein bod ni ar y trywydd iawn.”

Mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi gweithio â 19 o gyflogwyr, gan gynnwys JCB, er mwyn darparu cyfleoedd am waith i’n cyfranogwyr neu roi cefnogaeth benodol iddynt â gwaith.

Ers mis Awst 2020 cynorthwywyd 280 o bobl i gael gwaith drwy’r rhaglen; mae 63 o bobl wedi ennill cymwysterau galwedigaethol gan gynnwys Cardiau CSCS, trwyddedau Wagen Fforch Godi, Cymorth Cyntaf, Ymwybyddiaeth o Asbestos, Trwyddedau Awdurdod y Diwydiant Diogelwch, Cymorth Dysgu, Cerbydau Nwyddau Ysgafn a Gofal Cymdeithasol, ac mae o leiaf 43 o bobl wedi mynd ymlaen i gael gwaith o ganlyniad uniongyrchol i’r hyfforddiant.

Meddai Craig Weeks, Rheolwr Cyffredinol JCB Transmissions yn Wrecsam, “Mae’n fendigedig medru cydweithio â Chyngor Wrecsam a Chymunedau am Waith a Mwy wrth gefnogi pobl leol i fynd yn ôl i fyd gwaith.”

Y cyrsiau hyn weithiau yw’r cymhwyster cyntaf y mae rhai pobl wedi’u hennill ers gadael ysgol, ac maent yn rhoi hwb mawr i hyder pobl wrth iddynt fynd ymlaen i wneud cyrsiau eraill neu ddod o hyd i waith yn syth.

Mae llawer o’r cyfranogwyr wedi elwa ar gynllun benthyciadau TG sydd wedi eu helpu i wneud hyfforddiant ar-lein a’i gwblhau. Cynigir y cynllun hwn dan nawdd Cymunedau Digidol Cymru, sy’n rhoi cyfarpar ar fenthyg am gyfnodau byr er mwyn helpu i leihau allgáu digidol.

Sut i gysylltu a dechrau ar eich ffordd at yrfa newydd

Mae’n haws nag erioed ichi gael mynediad i’r rhaglen a chael cymorth gyda gwaith gan Cymunedau am Waith a Mwy.

  • Anfonwch neges destun at 66777 i gael dolen ar gyfer ffurflen atgyfeirio Cymunedau am Waith a Mwy. Yna bydd un o’r Swyddogion Brysbennu’n cysylltu â chi i gael gwybod pa gymorth sydd ei angen.
  • Gallwch hefyd gysylltu â’r rhaglen drwy dudalen Facebook Cymunedau am Waith (neu Communities for Work).
  • Anfonwch e-bost i cfw@wrexham.gov.uk
  • Ffoniwch 07976 200413 neu 07976 200414.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Guildhall front lit in green for Recycle Week 2021 Golau gwyrdd eto ar gyfer Wythnos Ailgylchu
Erthygl nesaf Jobs Fair Ffair Swyddi Ar-lein i amlygu swyddi gofal cymdeithasol ar 1 Hydref

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Ysgol I D Hooson
Busnes ac addysg

Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol

Medi 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English