Rydym yn gwybod fod llawer yn digwydd yn Wrecsam na fyddai’n bosib heb waith diflino pobl sy’n codi arian a gwirfoddolwyr.
Mae cyn Faer Wrecsam, fu yn y rôl am ddwy flynedd yn olynol, wedi diolch iddynt am eu gwaith caled drwy drosglwyddo siec iddynt.
Cododd y Cynghorydd John Pritchard, cyn Faer Wrecsam a fu yn y rôl yn 2016/17 a 2017/18, lawer o arian i nifer o Elusennau’r Maer yn ystod ei gyfnod fel Maer.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Yn ddiweddar, cyflwynodd y Cynghorydd Pritchard sieciau terfynol i’r pum elusen a ddewisodd, gan orffen y gwaith codi arian yn ystod ei gyfnod yn y rôl.
Y pum elusen yn derbyn y sieciau oedd Cronfa Lauren Borwn, Dynamic, Beiciau Gwaed Cymru, Hosbis Tŷ’r Eos a Chronfa Gysur Arennol Betsi Cadwaladr Wrecsam. Cyflwynwyd rhodd o £1,130 yr un i’r elusennau.
Ymunodd cynrychiolwyr o bob un o’r elusennau â’r Cynghorydd Pritchard am dderbyniad bach ym Mharlwr y Maer.
Dywedodd y Cynghorydd Pritchard: “Roeddwn yn falch o drosglwyddo’r sieciau terfynol i’r elusennau a ddewisais, ac rwy’n ddiolchgar iawn i fy olynydd fel Maer, y Cynghorydd Andy Williams, am gael defnyddio’r parlwr ar gyfer y derbyniad.
“Rwy’n gwybod fod pawb oedd yn bresennol yn falch iawn o fod yno, ac rwy’n gobeithio y bydd yr arian a gyfrannwyd yn helpu pob un ohonynt i barhau â’u gwaith pwysig.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION