Mae eiddo gwag ar stryd breswyl wedi cael ei ailddatblygu’n llwyddiannus diolch i fenthyciad gan Lywodraeth Cymru.
Roedd yr eiddo ar Ffordd Manley, Wrecsam wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn, gan arwain at bryderon gan gymdogion a’r gymuned ehangach ei fod yn hyll ac yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ar ôl i ddatblygwr eiddo lleol brynu’r eiddo, a diolch i gymorth o Fenthyciad Eiddo Gwag Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid, cafodd yr hen adeilad ei ddymchwel ac mae adeilad newydd wedi cael ei adeiladu yn ei le.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae’r safle newydd yn cynnwys wyth fflat hunangynhwysol o ansawdd uchel.
Cafodd yr adeilad ei ailddatblygu gan Shaun Stocker, datblygwr eiddo 27 oed o Wrecsam.
Cafodd Shaun anafiadau difrifol tra’n gwasanaethu gyda’r Fyddin yn Affganistan, ac mae wedi llwyddo i gael gyrfa fel datblygwr eiddo ers hynny.
Mae hefyd yn godwr arian brwd ar gyfer Blind Veterans UK ac mae wedi codi miloedd o bunnoedd ar gyfer yr elusen.
“Falch iawn o’r hyn rwyf wedi’i gyflawni”
Dywedodd Shaun: “Dwi’n falch iawn o’r hyn rwyf wedi’i gyflawni a dwi’n ddiolchgar iawn i Gyngor Wrecsam am y benthyciad – hebddo, fe fyddai wedi bod yn anodd iawn i’w gwblhau.
“Dwi hefyd yn ddiolchgar iawn i fy ffrind Tony Thackeray a oedd yn rheoli’r prosiect.
“Mae’n anhygoel gweld adeilad mor hardd a oedd yn syniad ar un tro, yn dod yn fyw, ac mae’n fonws ychwanegol ei fod wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’r ardal leol.”
Dywedodd y Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Dwi’n falch iawn o weld y gwaith yma’n cael ei gwblhau, a dwi’n ddiolchgar iawn i Mr Stocker am ei holl waith caled yn adfywio’r safle yma.
Mae cyllid Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid wedi chwarae rôl allweddol yn adfywio rhannau o Wrecsam a dwi’n falch o weld bod safle a arferai fod yn adeilad hyll bellach yn cael defnydd da.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION