Mae Casgliad Banc Bwyd cyntaf Carchar y Berwyn wedi ei gynnal a’i roi gan Gymuned Cyn-Filwyr Shaun Stocker i staff y Banc Bwyd. Trefnwyd y casgliad gan Fentor Cymheiriaid y Cyn-Filwyr ac roedd yn cynnwys cymuned cyn-filwyr Carchar y Berwyn a roddodd.
“Doedd gennym ni ddim llawer i’w roi”
Pan ofynnwyd i gynrychiolydd y gymuned am y casgliad fe ddywedodd nad oedd ganddyn nhw lawer i’w roi a’u bod ymhell o’r gymuned leol ond, serch hynny, bod arnyn nhw eisiau bod yn rhan o’r gymuned ehangach drwy ymgymryd â gweithgareddau codi arian a rhoi rhywbeth yn ôl i drigolion lleol.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Cafodd yr eitemau eu trosglwyddo gan Ian Langton, Rheolwr Gwarchodol Cymuned y Cyn-Filwyr, i Sally Ellinson o Fanc Bwyd Wrecsam a’u derbyn ar ran y gymuned leol gan y Cynghorydd David Griffiths, Cefnogwr Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam.
Roedd Sally yn ddiolchgar iawn am yr eitemau gan ddweud ei fod yn golygu hyd yn oed mwy gan fod y dynion wedi rhoi o’u cyflenwadau nhw eu hunain.
Diolchodd y Cynghorydd Griffiths bawb a gymerodd ran yn unigol a’u sicrhau, ar ran tref Wrecsam, bod eu hymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.