Ymunwch â Chôr Cymunedol Un Byd Wrecsam a’u gwesteion – Côr Un Cariad Wrecsam a Rebecca Roberts – Unawdydd Soprano yn eu cyngerdd yr haf yn Nhŷ Pawb ddydd Gwener, 26 Gorffennaf.
Mae Côr Cymunedol Un Byd Wrecsam yn gôr cymunedol cyfeillgar, agored a llawn bwrlwm i bawb o Wrecsam a thu hwnt sy’n caru canu.
Côr Un Cariad Wrecsam yw grŵp o bobl sydd wedi bod yn ddigartref, sydd â phroblemau iechyd meddwl a chyflyrau camddefnyddio sylweddau neu’r rheiny sy’n ddiamddiffyn neu’n cael eu hymylu, sy’n mwynhau’r manteision o ganu gyda’i gilydd.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Dydd Gwener, 26 Gorffennaf am 7.30pm
Bydd yr arddangosfa wych yma o dalent lleol hefyd yn codi arian ar gyfer Banc Bwyd Wrecsam ac UAREUK.
Croeso i bawb! Awgrymir cyfraniad ar y drws o £3.00.
I gael mwy o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at info@wrexhamchoir.co.uk.
Mae Côr Cymunedol Wrecsam yn croesawu pawb sy’n 16+ oed, o ddechreuwyr ofnus i gantorion profiadol a phawb yn y canol. Nid oes angen gallu darllen cerddoriaeth, nid oes clyweliadau nac unawdwyr – y cyfan sydd angen ei wneud yw troi fyny a chanu!
Mae’r côr yn cyfarfod bob dydd Mawrth yn ystod tymor yr ysgol rhwng 7.30pm a 9.30pm yn Nhŷ Pawb, Wrecsam.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION