Anogir pobl sy’n chwilio am gar newydd i wirio cyflwr unrhyw gar yn iawn cyn ei brynu. Daw’r cyngor hwn ar ôl i un gwerthwr dderbyn dirwy am werthu car gyda lefelau peryglus o gyrydiad.
Yn Llys Ynadon Wrecsam ddydd Mawrth 22 Awst, plediodd Zaviz International Ltd, sy’n gwerthu ceir cyflym, yn euog i werthu car anaddas i’r ffordd fawr.
Dygwyd yr achos i’r llys gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Wrecsam, ar ôl i brynwr y car Mitsubishi Evo 9 gwyno am nifer o ddiffygion.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Gwelodd y Swyddogion Safonau Masnach bod cyrydiad ofnadwy ar y car, a all fod yn beryglus iawn.
Roedd costau a dirwy’r masnachwyr yn dod i £2900, ac mae’n rhaid iddynt hefyd ad-dalu cost gwerthu’r car i’r prynwr, sef £13,000.
“Gallai hyn fod wedi arwain at ddamwain difrifol neu angheuol”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’n bryder mawr i mi bod car yn y cyflwr hwn wedi ei werthu fel car addas i’r ffordd fawr. Oherwydd y cyrydiad doedd y car ddim mewn cyflwr da o gwbl, a gall fod wedi rhoi diogelwch y perchennog a’r cyhoedd mewn perygl a hyd yn oed achosi damwain difrifol neu angheuol.
“Mae’n ddyletswydd ar fusnesau ceir i sicrhau bod cerbydau yn addas i’r ffordd fawr a’u bod yn cyflogi technegwyr sy’n gallu cynnal y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau hynny.
“Dylai prynwyr hefyd gymryd gofal, ac ystyried a fyddai’n well gofyn i arolygwyr annibynnol wirio cerbydau i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel a heb ddiffygion cudd.”
Os ydych chi’n cael problemau gyda char rydych chi wedi ei byrnu gallwch dderbyn cyngor drwy Wasanaethau Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 (llinell Gymraeg) neu 03454 040506 (llinell Saesneg), neu drwy fynd i www.citizensadvice.org.uk.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI