Credir mai ganol mis Ionawr fydd rhai ohonom yn debygol o’i chael yn anodd cadw ein haddunedau Blwyddyn Newydd, neu’n eu torri. Os wnaethoch chi adduned a oedd yn ymwneud â chyllidebu, iechyd neu ffitrwydd, gallai’r wybodaeth a’r cymorth sydd ar gael i ni drwy Care First eich helpu.
Caiff cyngor am lesiant ei ddiweddaru’n rheolaidd ar wefan Care First Zest a’r ap ffôn symudol. Mae hyn yn rhyngweithiol a gallwch ddewis a gosod nodau unigol, dilyn ryseitiau a rhaglenni. Gallwch gymryd rhan mewn asesiadau llesiant gan gynnwys cwsg, cydnerthedd, a faint o gaffein a dŵr sydd yn eich deiet. Dyma’r manylion mewngofnodi er mwyn i chi gymryd golwg:
www.welshframework-zest.co.uk
cod y sefydliad: wf1
Mae Care First yn darparu gwasanaeth gwybodaeth a chymorth gan gynghorwyr a all helpu gyda materion ariannol, cyfreithiol a lles gan roi mynediad cyflym i gynghorwyr sydd wedi’u hyfforddi gan gyngor ar bopeth a all ateb cwestiynau ymarferol. Gallai hyn ymwneud â:
- Chyllidebu a chyngor ariannol os ydych wedi gwario mwy dros gyfnod y Nadolig
- Cyngor am eich hawliau o ran pethau rydych wedi’u prynu
- Cyngor cyfreithiol oherwydd materion sy’n ymwneud â pherthnasoedd
Rhadffôn 0800 174 319
Gallwch hefyd gael cefnogaeth emosiynol a chwnsela cyfrinachol ar y rhif ffôn uchod, a bydd hyn ar gael 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y flwyddyn.
Hefyd gellir cyfnewid negeseuon ar-lein yn ddiogel gyda Chwnselydd drwy wefan Lifestyle Care First o 8am hyd at hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.
Awgrymir bod gweithwyr yn cadw’r rhif Rhadffôn yn eu ffonau symudol rhag ofn bydd angen defnyddio’r gwasanaeth hwn pan na fyddwn yn y gweithle.
Mae gwefan Lifestyle yn darparu rhaglenni iechyd a lles rhyngweithiol hefyd, ac erthyglau a gweminarau am amryw bynciau. Mae pynciau’n cynnwys manteision Ionawr Sych ac ymwybyddiaeth o bwysedd gwaed. Mae gweminarau presennol yn cynnwys gwella eich deiet a phan fydd perthnasoedd yn mynd o chwith:
www.carefirst-lifestyle.co.uk
Enw defnyddiwr: wrexham
Cyfrinair: employee
Mae unrhyw gyswllt a wneir yn gwbl gyfrinachol ac nid oes angen rhoi gwybod i’ch rheolwr
Mae adborth cadarnhaol wedi ei roi gan rai sydd wedi defnyddio’r gwasanaethau hyn. Os ydych wedi cysylltu â Care First ac am roi adborth am eich profiad i gynorthwyo â rheoli contractau, gallwch wneud hynny yn gyfrinachol drwy anfon e-bost neu ffonio Andrea Stevenson, Partner Busnes Adnoddau Dynol, 297511 andrea.stevenson@wrexham.gov.uk Croesewir pob adborth.