Os ydych chi yn y dref yfory, beth am alw heibio i Dŷ Pawb i ddarganfod mwy am ailgylchu eich gwastraff bwyd.
Bydd staff ar gael gyda chyngor am ailgylchu gwastraff bwyd a sut i storio bwyd yn ddiogel er mwyn osgoi gwastraff.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae nifer ohonom yn defnyddio cadis ar gyfer ein gwastraff bwyd, a gaiff ei droi’n gompost ar gyfer ein parciau a’i gynnig am ddim i drigolion o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Byddant yn dosbarthu sachau cadi a mesuryddion sbageti am ddim. Ac os oes arnoch chi angen bag glas newydd, bydd y rhain ar gael i’w casglu hefyd.
Mae bagiau a sachau cadi hefyd ar gael mewn nifer o fannau casglu ar draws y fwrdeistref sirol, a gallwch ddod o hyd iddynt yma.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH