Caddie Liners

Lansiwyd ein Harolwg Gwastraff Bwyd ddiwedd y llynedd, ac rydym yn falch o ddweud ein bod wedi derbyn ymateb gwych gyda nifer o drigolion yn cymryd rhan i’n helpu i ddysgu am arferion gwastraff bwyd pobl yn Wrecsam.

Derbyniwyd cyfanswm o 1,850 o ymatebion. 😃

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch ac yn ddiolchgar bod gymaint o drigolion wedi cymryd rhan yn yr Arolwg Gwastraff Bwyd.  Derbyniwyd dros 1,700 o ymatebion i’r arolwg llawn, a chafodd 150 o’r arolygon byrrach eu cwblhau yn y canolfannau ailgylchu, sy’n wych.

“Rydym bellach wedi casglu’r holl wybodaeth ac wedi darllen drwy eich sylwadau – sy’n cynnwys syniadau addawol iawn. Rydym wirioneddol yn gwerthfawrogi’r ymateb rhagorol a fydd yn ein helpu i ddatblygu a gwella’r gwasanaeth gwastraff bwyd a ddarperir yn Wrecsam.”

Beth ddwedoch chi wrthym ni

Dyma rai pethau a ddwedoch chi wrthym ni yn yr Arolwg Gwastraff Bwyd…

Pam ein bod yn ailgylchu bwyd a pham ei fod yn cael ei wastraffu

Y prif gymhelliant ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd yn Wrecsam (gyda dros 70% o ymatebwyr yn rhestru hyn fel rheswm) yw er mwyn arbed arian.  Soniodd nifer o’r bobl hyn am sut mae eu profiadau bywyd wedi’u helpu i leihau gwastraff.

Y prif resymau dros wastraff bwyd mewn aelwydydd yw eu bod y bwyd yn sbwylio cyn y dyddiad ‘defnydd’ neu ‘ar ei orau cyn’ (47%) ac nad yw pawb yn bwyta eu prydau bwyd cyfan (ychydig yn llai na 35%).

Roedd yn ddiddorol nodi hefyd bod ychydig yn llai na 85% o’r ymatebwyr wedi nodi mai dim ond ‘ychydig’ o fwyd sy’n cael ei wastraffu yn eu cartref bob wythnos.

Ein gwasanaeth casglu gwastraff bwyd

Rhoddodd yr adran hon o’r holiadur gipolwg i ni o’r pethau y mae ein trigolion yn eu hoffi a’r pethau nad ydynt yn eu hoffi am y gwasanaeth casglu gwastraff bwyd yn Wrecsam.

Roedd yn ddiddorol nodi’r canlynol:

  • Roedd 80% o’r ymatebwyr eisoes yn defnyddio’r gwasanaeth casglu gwastraff bwyd.  Y prif ysgogiadau oedd ei fod yn ‘wasanaeth a ddarperir gan y Cyngor i’w ddefnyddio gan drigolion’ (80%), ‘dyna’r peth cywir i’w wneud’ (78%) ac ‘i wneud fy rhan ar gyfer yr amgylchedd’ (75%).
  • Roedd 80% o’r ymatebwyr y gofynnwyd iddynt sgorio’r gwasanaeth gwastraff bwyd yn credu ei fod yn ‘rhagorol’ neu’n ‘dda iawn’.
  • Roedd awgrymiadau ar gyfer gwelliannau’n cynnwys gweithio gyda rhai o’r criwiau casglu i gymryd mwy o ofal ar ddiwrnodau casglu, ac ystyried darparu sachau cadi o ansawdd gwell.
  • Nododd oddeutu 15% o ymatebwyr nad ydynt yn defnyddio’r gwasanaeth gwastraff bwyd, a’r prif resymau dros hynny oedd er mwyn atal plâu (43%) ac nad oedd ar aelwydydd eisiau cadi bwyd yn y gegin (39%).  Yn yr un modd, nododd 51% o’r bobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth yn y gorffennol ond wedi rhoi’r gorau i’w ddefnyddio arogleuon/plâu fel rheswm dros hynny.
  • Derbyniwyd sylwadau cadarnhaol am y gwasanaeth, ond roedd rhai meysydd angen sylw.  Er enghraifft, roedd rhai pobl yn teimlo y dylid lledaenu’r neges mai’r cwbl sydd angen i bobl ei wneud os oes arnynt angen rhagor o sachau cadi yw clymu sach i ddolen eu cadi ymyl palmant ar y diwrnod casglu, ac fe wnaiff y gweithredwyr adael rholyn newydd, gan nad oeddent yn ymwybodol o hyn.
  • Pwysleisiodd trigolion eu bod yn hoffi’r system o glymu sach i ddolen y cadi er mwyn dangos bod arnynt angen rhagor o sachau, a bod casglu’r sachau o fannau casglu yn Wrecsam yn gallu bod yn ddefnyddiol hefyd.  Amlygwyd nifer o achosion lle nad yw unigolion yn gallu mynd i fan casglu yn sgil oriau gwaith neu broblemau symudedd.

Dewch i nôl bagiau bin bwyd a sachau glas o dros 40 lleoliad yn Wrecsam!

  • Mae nifer ohonoch wedi awgrymu mannau casglu posibl newydd yn Wrecsam, ac rydym bellach yn gallu dechrau gofyn i’r lleoliadau hyn a fyddent yn awyddus i ddosbarthu’r sachau cadi a’r sachau glas i ni.
  • Hoffai rhai trigolion (44%) wybod mwy am beth sy’n digwydd i wastraff bwyd ar ôl iddo gael ei gasglu, ac roedd arnynt eisiau i’r wybodaeth hon gael ei hyrwyddo mewn lleoliadau addysg.

Diolch eto i bawb a gymerodd ran yn yr Arolwg Gwastraff Bwyd, rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad yn fawr.

Cadwch lygad allan am ein cynghorion gwastraff bwyd dros y dyddiau nesaf hefyd!

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH