Dyma gyngor diogelwch ar gyfer prynwyr peiriannau sychu dillad Hotpoint, Indesit, Creda, Swan a Proline sydd wedi’u gweithgynhyrchu rhwng mis Ebrill 2004 a mis Medi 2015.
Cynghorir prynwyr sydd wedi’u heffeithio gan broblemau diogelwch Whirlpool, sy’n dal yn berchen ar beiriannau heb eu haddasu, i ddatgysylltu eu peiriannau ar unwaith a threfnu addasiad rhad ac am ddim.
Mae Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch (OPSS) wedi ailadrodd y cyngor diogelwch a ddarparodd mewn perthynas â’r 500,000 o beiriannau sychu dillad Whirlpool sydd heb eu haddasu.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Yn dilyn adolygiad diweddar gan yr OPSS, gall pobl sy’n berchen ar beiriannau sychu dillad Whirlpool sydd wedi’u haddasu barhau i’w defnyddio’n ddiogel, yn unol â’r cyfarwyddiadau. Fodd bynnag, dywedir wrth bobl sydd â pheiriannau heb eu haddasu i’w datgysylltu ar unwaith a pheidio â’u defnyddio nes eu bod wedi eu haddasu gan Whirlpool (ni fydd cost ynghlwm wrth hynny).
Mae OPSS wedi cyhoeddi gofynion penodol i Whirlpool weithredu, ac mae’r ymchwiliad yn dal yn mynd rhagddo.
Dylai prynwyr ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr bob tro, gan gynnwys clirio blwch lint peiriannau sychu dillad yn drylwyr ac yn rheolaidd.
Y brandiau sydd wedi’u heffeithio yw: Hotpoint, Indesit, Creda, Swan, Proline. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Whirlpool neu ewch i wefannau’r brandiau uchod.
Dylai prynwyr fod yn wyliadwrus a chofrestru eu peiriannau yn www.registermyappliance.org.uk/registration i sicrhau eu bod yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am addasiadau ac unrhyw gynnyrch sy’n cael ei alw’n ôl.
Anogir prynwyr i fynd i dudalen https://productrecall.campaign.gov.uk GOV.UK i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnyrch sy’n cael ei alw’n ôl.
Os oes gennych chi unrhyw bryder am ddiogelwch cynnyrch, gallwch ffonio llinell gwasanaeth prynwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 06.
Hotpoint, Indesit, Creda, Swan and Proline tumble dryers
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU