Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o bostiadau am ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy
Os ydych chi am fentro allan yn Wrecsam dros gyfnod yr ŵyl, rydyn ni am sicrhau’ch bod yn cael noson sy’n gofiadwy – am y rhesymau cywir. Dyma ein cynghorion i’ch helpu i sicrhau bod eich noson allan yn ddiogel a phleserus.
Cyngor 1: Peidiwch â dechrau yfed gartref
Byddai rhywun yn gallu meddwl ei bod yn syniad da cael diod neu ddwy gartref cyn mynd allan. Gallech gredu ei bod yn ffordd o arbed arian ac o ymlacio, ond byddai yfed gormod gartref cyn mynd allan yn gallu ei gwneud yn noson fyr yn y pen draw. Mae pobl sy’n yfed gartref cyn mynd allan yn tueddu i anghofio faint maen nhw wedi’i yfed a mynd yn fwy meddw nag roedden nhw wedi bwriadu. Yn aml bydd hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol i chi:
- Fod yn sâl o ganlyniad i yfed gormod o alcohol, yn cynnwys chwydu, fel y gallech orffen y noson mewn ffordd annymunol
- Cael eich tynnu i mewn i ymladd
- Cael eich anafu ar ôl syrthio
- Bod yn agored i niwed
Cyngor 2: Chwiliwch am yr arwydd Best Bar None
Pan fyddwch chi’n cerdded i mewn i adeilad trwyddedig ac yn gweld yr arwydd hwn, mae’n golygu’ch bod chi ar safle sydd wedi’i achredu gan Best Bar None (BBN) Wrecsam. Mae pob safle BBN wedi cael ei asesu i ddangos ei fod wedi ymrwymo i’ch cadw’n ddiogel ar eich noson allan.
Cyngor 3: Bwytewch cyn yfed
Gofalwch eich bod yn bwyta cyn mynd allan. Mae bwyd yn sugno alcohol, gan ei arafu cyn iddo fynd i mewn i’r llif gwaed. Bydd yn rhoi mwy o egni i chi ac yn lleihau’r effeithiau y diwrnod wedyn. Ceisiwch adael amser rhwng eich diodydd ac yfed diodydd meddal neu ddŵr rhwng diodydd alcoholaidd. Mae hyn yn gallu arafu’ch yfed.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Cyngor 4: Meddyliwch am eich iechyd
Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli mai gwenwyn yw alcohol a bod yfed gormod ohono’n gallu cael effaith ddifrifol ar eich iechyd o fewn dim.
Cyngor 5: Arhoswch gyda’ch ffrindiau
Mae ffrindiau’n gofalu am ei gilydd. Sicrhewch nad ydych chi’n cael eich gwahanu. Os ydych chi’n cymdeithasu â grŵp o bobl, cadwch lygad ar eich gilydd a gofalu bod pawb yn aros yn ddiogel.
https://www.youtube.com/watch?v=l1dVqH7B4xQ
Cyngor 6: Peidiwch â gadael eich diodydd heb neb i gadw golwg arnynt
Peidiwch â gadael diodydd heb neb i gadw golwg arnynt gan fod hynny’n ei gwneud yn fwy tebygol y bydd rhywun yn ychwanegu alcohol neu gyffur atyn nhw. Mae hyn yn gallu digwydd i ddynion a menywod. Bydd troseddwyr yn gwneud hyn er mwyn troseddu yn eich erbyn drwy ddwyn, lladrata neu ymosod yn rhywiol, er enghraifft. Mae hyn yn rheswm i chi wrthod cymryd diod gan ddieithriaid hefyd. Os oes rhaid i chi adael eich diod am ryw reswm, gofynnwch i’ch ffrindiau gadw golwg arni.
Cyngor 7: Mae help wrth law os bydd ei angen
Os ydych chi’n teimlo ychydig yn rhy feddw, gwyliwch am y bugeiliaid stryd sy’n rhoi cymorth tosturiol yng nghanol y dref ac sy’n gallu’ch helpu. Maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu ac yn gallu darparu dŵr a help ymarferol i chi os oes angen.
Gallwch hefyd fynd i’r Ganolfan Les yn Hafod y Wern. Mae’r ganolfan yn cael ei hariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru a’r Bwrdd Iechyd. Gweithwyr y Groes Goch Brydeinig sy’n rhedeg y ganolfan ac mae’n cynnig cymorth meddygol, lle i wella a gofal bugeiliol os ydych wedi cael gormod i’w yfed, wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon, neu’n teimlo’n agored i niwed.
Cyngor 8: Cynlluniwch eich siwrnai adref
Cyn mynd i mewn i unrhyw dacsi, sicrhewch ei fod wedi cael ei drwyddedu’n briodol. Mae’n ofynnol bod platiau trwydded gwyn a phorffor ar du allan pob cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacnai .
Hefyd mae arwyddion melyn wedi’u glynu ar ffenestri cefn cerbydau hurio preifat.
Mae’n ofynnol bod pob gyrrwr yn gwisgo bathodyn adnabod sy’n dangos ei enw, ei lun, rhif ei drwydded a’r dyddiad y mae’n dod i ben. Os na allwch weld y bathodyn, gofynnwch am ei weld cyn cychwyn.
Cyngor 9: Wedi’ch noson allan…
Yfwch beint o ddŵr cyn mynd i’r gwely i atal eich corff/croen rhag sychu ac ewch am ddiwrnod neu ddau heb yfed er mwyn i’ch corff ddod ato’i hun ar ôl sesiwn o yfed trwm.
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am gael mwy o wybodaeth am y niwed posibl o yfed, gallwch ymweld â’r gwefannau hyn:
http://www.nhs.uk/Livewell/alcohol/Pages/Alcoholhome.aspx
http://www.nhs.uk/Livewell/abuse/Pages/drink-spiking.aspx#
Os ydych chi’n pryderu am eich yfed, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru DAN 24/7 ar Radffon 0808 808 2234 neu yn www.dan247.org.uk
Mae rhagor o wybodaeth am ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy ar gael yma
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
GET BIN REMINDERS