Mae ailgylchu popeth y gallwch yn fwy gwych na feddyliech chi! Yng Nghymru, rydyn ni ar flaen y gad gydag ailgylchu, a ni yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu. Ond mae angen eich help arnom i gyrraedd rhif un drwy ailgylchu mwy o’r pethau cywir yn fwy aml, gyda’n gilydd.
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Yng Nghymru, mae mwy na 92% ohonom yn ailgylchu’n rheolaidd, ond gyda’n hanner ni yn dal i beidio ailgylchu popeth posibl, mae angen inni fynd gam ymhellach ac ailgylchu mwy. Pe byddai pob un ohonom yn ailddefnyddio neu’n ailgylchu un peth arall bob dydd, buasai’n gwneud gwahaniaeth mawr.”
Byddwch yn ailgylchwr gwych a helpu i daclo newid hinsawdd. Drwy wneud rhywbeth gwych heddiw, gallwch helpu i gael Cymru i rif un yn y byd am ailgylchu!
Dyma ambell air o gyngor ar gyfer ailgylchu popeth y gallwch:
1. Os yw wedi’i wneud o blastig, a siâp potel iddo, ailgylchwch ef
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu. A dweud y gwir, mae mwy nag 88% ohonom yn ailgylchu poteli plastig fel poteli diodydd, nwyddau glanhau a nwyddau ymolchi. Cofiwch wagio, gwasgu a rhoi’r caead yn ôl cyn ailgylchu. Gellir gadael y caead chwistrell ar boteli glanhau.
2. Dangoswch i’r potiau plastig pwy di’r bos
Rhowch rinsiad sydyn i’ch potiau a thybiau cyn eu hailgylchu; cofiwch dynnu unrhyw haenen blastig. Does dim angen cael pob tamaid o fwyd oddi arnynt, ac mae eu rhoi yn y peiriant golchi llestri yn mynd dros ben llestri – ac yn wastraff ynni!
3. Ailgylchwch ganiau erosol o bob ystafell
Mae caniau erosol wedi’u gwneud o fetel ailgylchadwy a gellir eu hailgylchu dro ar ôl tro heb i’w hansawdd ddirywio. Cofiwch ailgylchu eich erosolau gwag, yn cynnwys chwistrell gwallt, diaroglydd, gel eillio a chwistrellau a ddefnyddiwch o gwmpas y cartref, fel polish neu ddiaroglydd aer.
4. Ailgylchwch eich holl wastraff bwyd
Er bod 90% ohonom yn ailgylchu ein gwastraff bwyd, mae rhywfaint ohono’n dal i gyrraedd y bin sbwriel. Cofiwch y gallwch ailgylchu hen fagiau te, gwaddodion coffi, plisg wyau, esgyrn a chrafion oll.
5. Gwasgwch eich caniau
Os gwnewch chi wasgu eich caniau gwag, fe wnaiff arbed lle yn eich bin ailgylchu a’u gwneud yn fwy effeithlon i’w cludo. Gwasgwch eitemau ffoil at ei gilydd yn llac i’w helpu i fynd drwy’r broses ddidoli heb fynd ar goll.
#WythnosAilgylchu #ByddWychAilgylcha
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN