Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor newydd i’r rhai sy’n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol – y cynllun ‘gwarchod’ gynt
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cyngor newydd i’r rhai sy’n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol – y cynllun ‘gwarchod’ gynt
ArallPobl a lle

Cyngor newydd i’r rhai sy’n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol – y cynllun ‘gwarchod’ gynt

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 22, 2020 4:09 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cyngor newydd i’r rhai sy’n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol – y cynllun ‘gwarchod’ gynt
RHANNU

DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

Mae’r cyngor i’r rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, y cynllun ‘gwarchod’ gynt, wedi newid o heddiw (22.12.20) ymlaen.

Y cyngor nawr yw na ddylai’r rhai yn y grŵp hwn fynd i’r gwaith na’r ysgol y tu allan i’w cartref. Mae’r cyngor yn arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n gweithio mewn swydd sydd â chysylltiad rheolaidd neu barhaus â phobl eraill, neu swydd lle mae unigolion, am gyfnodau hir, yn rhannu gweithle sydd heb lawer o awyr iach.

Bydd llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn cael ei anfon i gadarnhau’r cyngor hwn ond bydd yn cymryd peth amser i gyrraedd pobl oherwydd cyfnod y Nadolig. Gellir defnyddio’r llythyr hwn fel tystiolaeth i hawlio tâl salwch statudol.

Gwnaed y penderfyniad hwn ar sail nifer o ffactorau ond y dylanwad diweddaraf oedd y twf sylweddol diweddar yn y cyfraddau heintio, o bosibl yn sgil yr amrywiolyn newydd o’r coronafeirws.

Rydym hefyd wedi ystyried y pwysau sydd ar ein gwasanaethau iechyd, gyda niferoedd cynyddol o gleifion mewn ysbytai. Bydd y cyngor hwn yn cael ei adolygu bob tair wythnos, yn unol ag adolygiadau Llywodraeth Cymru o’r lefelau rhybudd ledled Cymru.

Mae’r rheoliadau sydd mewn grym ar lefel 4 https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-4 eisoes yn berthnasol i unigolion yn y grŵp hwn ac felly rhaid iddynt aros gartref cymaint â phosibl.

Fodd bynnag, hoffwn bwysleisio y caiff y grŵp barhau i fynd allan i ymarfer corff, a hefyd i fynd i apwyntiadau meddygol. Rhaid inni gofio’r niwed y gall ynysu am gyfnodau hir ei achosi. Felly, caiff y rhai yn y grŵp hwn barhau i fod yn rhan o swigen gefnogaeth, cyn belled â’u bod yn cymryd gofal.

Rydym wedi’i gwneud yn glir mai’r dewis mwyaf diogel i bobl yn y grŵp hwn yw peidio â bod yn rhan o Swigen Nadolig. Fodd bynnag, os byddant yn dewis gwneud hynny, dylent ddilyn y cyngor ar ein gwefan https://llyw.cymru/cyngor-y-nadolig-ar-gyfer-pobl-oedd-yn-gwarchod sy’n cynnwys lleihau cysylltiadau cymaint â phosibl, cyfarfod am gyfnodau byr mewn mannau sydd â digonedd o awyr iach, golchi dwylo ac arwynebau yn rheolaidd a chadw 2 fetr oddi wrth bobl eraill.

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Recycling Canolfannau ailgylchu gwastraff cartref Wrecsam i aros ar agor
Erthygl nesaf Rhoi Hwb i Sgiliau Arwain a Sgiliau Bywyd Merched trwy Raglen Bêl-droed Arloesol Rhoi Hwb i Sgiliau Arwain a Sgiliau Bywyd Merched trwy Raglen Bêl-droed Arloesol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English