Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhoi Hwb i Sgiliau Arwain a Sgiliau Bywyd Merched trwy Raglen Bêl-droed Arloesol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rhoi Hwb i Sgiliau Arwain a Sgiliau Bywyd Merched trwy Raglen Bêl-droed Arloesol
ArallBusnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Rhoi Hwb i Sgiliau Arwain a Sgiliau Bywyd Merched trwy Raglen Bêl-droed Arloesol

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 23, 2020 12:50 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Rhoi Hwb i Sgiliau Arwain a Sgiliau Bywyd Merched trwy Raglen Bêl-droed Arloesol
RHANNU

Dewiswyd ysgol uwchradd yn Wrecsam i gymryd rhan mewn cynllun peilot ar draws Cymru o raglen arloesol sydd wedi’i dylunio i annog merched i gymryd rhan mewn addysg gorfforol trwy bêl-droed, a datblygu eu sgiliau arweinyddiaeth a sgiliau byw.

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws

Mae Ysgol Clywedog yn un o 20 ysgol yn y wlad i gymryd rhan yn Rhaglen Ysgolion ‘Be Football’ sydd yn cynnwys tua 150 o ferched o flynyddoedd 7 i 9.

Mae’r rhaglen yn cael ei redeg ar y cyd â dwy elusen: Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sy’n gyfrifol am ddatblygu pêl-droed yng Nghymru, ac Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, elusen genedlaethol sydd yn angerddol o blaid pob plentyn yn profi’r manteision anhygoel a ddaw drwy chwarae a chwaraeon.

Bydd athrawon penodol yn yr ysgol yn cael hyfforddiant i’w helpu i annog merched yng nghwricwlwm addysg gorfforol trwy bêl-droed, i adnabod a datblygu sgiliau bywyd, a chefnogi merched i gael eu hawdurdodi i arwain gweithgareddau i eraill sy’n gysylltiedig â phêl-droed.

Dewiswyd chwe merch fel ysgogwyr pêl-droed a byddant yn derbyn hyfforddiant arwain cyfoedion, gan ddilyn naill ai llwybr marchnata neu gyflwyno. Y merched sydd yn ymgymryd â’r llwybr cyflwyno ydi Ellie Thomas, Alys Griffiths a Ruby Whitfield. Mae Faith Jarvis, Abbie Houghton a Meghan Rogers wedi dewis y rolau arwain marchnata.

Dywedodd Alys: “Mae merched angen bod yn fwy hyderus, a gobeithio y bydd cymryd rhan yn y prosiect hwn yn helpu llawer o ferched.

Mae Meghan yn edrych ymlaen at ddechrau ei rôl newydd. Dywedodd: “Dwi’n gobeithio y bydd y prosiect yma’n gwneud i mi fod yn fwy hyderus ac yn dysgu sgiliau i mi y gallaf eu defnyddio yn y dyfodol.”

Yn rhan o’r rhaglen, bydd yr ysgol yn cael cefnogaeth i sefydlu a chyflwyno clybiau pêl-droed allgyrsiol i ferched neu weithgareddau cysylltiedig eraill dan arweiniad yr ysgogwyr pêl-droed merched.

Yn sgil y pandemig, fe fydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal dros y we gan ddechrau yn nes ymlaen yn y mis. Fe gynhelir y rhaglen tan fis Gorffennaf flwyddyn nesaf.

Mae Joanne Attwood, pennaeth Addysg Gorfforol wrth ei bodd bod yr ysgol yn cymryd rhan yn y rhaglen. Dywedodd: “Mae’r adran Addysg Gorfforol wedi cyffroi ein bod wedi cael ein dewis i gymryd rhan yn y rhaglen. Mae’r merched wedi bod yn gofyn am fwy gyfleoedd i chwarae pêl-droed. Fe fydd y rhaglen yma’n galluogi iddynt adeiladu eu hyder a sgiliau arwain, ond yn fwy pwysig, bydd yn ysgogi iddynt fod yn heini drwy chwarae pêl-droed.”

Yn ogystal â chael cyswllt cefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ddarparu cysylltiad hir dymor, bydd yr ysgol yn derbyn offer i gyflwyno’r rhaglen a dillad ‘Be Football’ i’r merched yn y tîm arwain, a photeli dŵr a chardiau adnoddau.

Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer Gwobr Chwaraeon Ieuenctid Pêl-droed Merched, y cynllun cydnabod a gwobrwyo sydd yn arddangos dysgu a chyflawniad sgiliau bywyd ysgogwyr trwy bêl-droed.

???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cyngor newydd i’r rhai sy’n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol – y cynllun ‘gwarchod’ gynt Cyngor newydd i’r rhai sy’n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol – y cynllun ‘gwarchod’ gynt
Erthygl nesaf “Mae ysbryd y Nadolig yn parhau er yr amseroedd caled sydd ohoni" “Mae ysbryd y Nadolig yn parhau er yr amseroedd caled sydd ohoni”

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English