Y llynedd, rhoddodd Cyngor Wrecsam ganiatâd cynllunio ar gyfer eisteddle ‘Kop’ newydd gyda 5,500 o seddi yn Stadiwm Y Cae Ras.
Gosodwyd amod yn cyfyngu ei ar gapasiti i 4,900 o seddi yn sgil cyfyngiadau oedd yn gysylltiedig â ffosffadau ar y pryd. Fodd bynnag, mae gwelliannau i’r Gwaith Trin Dŵr Gwastraff yn Five Fords bellach wedi lleihau’r sefyllfa ffosffad yn y Ddinas.
O ganlyniad, cyflwynwyd cais ym mis Tachwedd ar ran Clwb Pêl-droed Wrecsam ar gyfer ‘diwygiad ansylweddol’ i’r caniatâd cynllunio ond bu’n rhaid ei wrthod ar sail dechnegol.
Yn dilyn cyngor gan Wasanaeth Cynllunio’r Cyngor, cyflwynwyd cais cywir i amrywio amod cyfyngu’r caniatâd cynllunio gwreiddiol. Yn dilyn ymgynghoriad statudol gyda Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, mae cymeradwyaeth bellach wedi’i rhoi. Mae hyn yn golygu ar ôl i’r eisteddle gael ei godi, y bydd lle i 5,500 o gefnogwyr (capasiti llawn).
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o hwn. Fe wyddom ni gyd bod pêl-droed yn rhan enfawr o’n hunaniaeth yn Wrecsam, ac mae’r ddinas yn elwa yn sgil llwyddiant y clwb hefyd ym mhob ffordd – gan ein taflu i sylw’r byd.
“Mae hi’n bwysig bod y gweithdrefnau cynllunio cywir wedi cael eu dilyn, ac rydw i wrth fy modd y bydd y Kop bellach yn cael ei ddefnyddio i’w lawn capasiti pan fydd yn cael ei adeiladu.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio: “Gyda chefnogaeth a chyngor ein swyddogion, rwy’n falch fod y cais cynllunio cywir bellach wedi’i dderbyn.
“Ar ôl ymgynghori gyda’r asiantaethau priodol, bu modd i ni gymeradwyo’r cais sydd yn newyddion gwych i’r clwb a chefnogwyr pêl-droed.”