Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i wneud cynnydd da yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i wneud cynnydd da yn Wrecsam
Y cyngor

Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i wneud cynnydd da yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 10, 2024 11:54 am
Rhannu
Darllen 3 funud
A picture of a young child enjoying jupingin muddy puddles.
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam yn parhau i wneud gwelliannau i wasanaethau cymdeithasol, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Cynhaliodd AGC asesiad wedi’i drefnu o ofal cymdeithasol i oedolion a phlant yn ôl ym mis Hydref.

Y nod oedd adolygu perfformiad, gyda’r arolygwyr yn tynnu sylw at gynnydd da mewn nifer o feysydd allweddol, yn cynnwys:

Gofal cymdeithasol i blant

  • Gwelliannau i sut mae’r cyngor yn gwrando ar farn plant ac yn ei gofnodi.
  • Sicrhau bod atal ac ymyrraeth gynnar wrth wraidd gwasanaethau plant.
  • Sicrhau bod asesiadau’n cynnwys pob maes allweddol.
  • Sicrhau bod digon o weithwyr cymwys mewn rolau allweddol.

Gofal cymdeithasol i oedolion

  • Bodloni anghenion gofalwyr a sicrhau bod asesiadau yn cael eu cynnig.
  • Cryfhau goruchwyliaeth a throsolwg gan reolwyr.
  • Darparu gwybodaeth, cyngor ac asesiad i unigolion.
  • Sicrhau bod asesiadau’n cael eu cynnal yn brydlon a’u bod yn gynhwysfawr.

Yn eu hadroddiad, mae’r arolygwyr yn galw ar y cyngor i barhau i ganolbwyntio eu hegni ar y meysydd hyn, fel eu bod yn gallu atgyfnerthu ac adeiladu ar eu gwaith hyd yma.

Meddai’r Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant:

“Mae’r arolygwyr yn cydnabod y cynnydd yr ydym yn parhau i’w wneud, sy’n galonogol iawn.

“Mae gofal cymdeithasol yn rhywbeth nad yw’r rhan fwyaf ohonom yn ei brofi yn ein bywydau o ddydd i ddydd, ond i blant a theuluoedd sy’n dibynnu ar ein gwasanaethau, mae’n hynod bwysig.

“Mae hwn yn adroddiad cadarnhaol iawn, ond mae gennym dal llawer o waith i’w wneud ac ni allwn orffwys ar ein bri. Byddwn yn parhau i symud ymlaen.”
Meddai’r Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion:

“Mae gennym gymaint o bobl ymroddedig ac ymrwymedig yn gweithio yn ein timau gofal cymdeithasol, ac maent yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymaint o fywydau.

“Mae’r adroddiad gan AGC yn tynnu sylw at sawl maes o arfer da, sy’n newyddion gwych ac yn rhoi hyder i ni wrth symud ymlaen.

“Mae’n adlewyrchiad cadarnhaol o waith y gweithwyr a’r cynghorwyr, ac mae’n cynnig arweiniad adeiladol ar le y dylem barhau i ganolbwyntio ein hymdrechion arno yn y flwyddyn i ddod.”

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor:

“Mae adroddiad AGC yn cydnabod ein hymrwymiad i wasanaethau cymdeithasol, a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith – gan gynnwys y prif swyddog, Cynghorwyr sydd wedi cefnogi ein cyllideb yn y blynyddoedd diweddar i ddarparu buddsoddiad, a’n staff sy’n gweithio’n ddiflino ar draws ein timau gwasanaethau cymdeithasol.

“Mae gwelliannau i’w gwneud o hyd ac ni fyddwn yn gorffwys ar ein bri, ond rydym wedi gwneud cynnydd mawr ac wedi dangos ein bod yn ymrwymedig i helpu i ddiogelu’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Freedom Leisure Canolfannau Hamdden Freedom Leisure yng Nghymru yn Cymryd Camau Breision Tuag Effeithlonrwydd Ynni Gwell
Erthygl nesaf Football pitch touchline. Cyngor Wrecsam yn cymeradwyo cais i ganiatáu 5,500 o seddi gael eu defnyddio yn eisteddle newydd y ‘Kop’

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Crematorium
Y cyngor

Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English