Mae Cyngor Wrecsam wedi adolygu ei raglen gyfalaf o fuddsoddiadau yn ddiweddar, ac yn dilyn cyfarfod y Bwrdd Gweithredol fis diwethaf, mae wedi dyrannu swm helaeth o gyllid ar gyfer cynnal a chadw seilwaith.
Cadarnhaodd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Yn dilyn cyfarfod y Bwrdd Gweithredol ym mis Gorffennaf, rwy’n falch o gadarnhau ein bod yn buddsoddi arian ychwanegol i gynnal ein seilwaith.
“Eleni rydym wedi dyrannu dros £5m ar gyfer cynnal a chadw mawr ei angen ar ein ffyrdd, rhwydweithiau strategol a chymunedol, troedffyrdd, strwythurau priffyrdd, signalau traffig, goleuadau stryd a systemau atal cerbydau.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i wella cyflwr ein seilwaith sy’n dirywio ac er ein bod yn cydnabod yr heriau ariannol y mae pob gwasanaeth cyhoeddus yn eu hwynebu, yn Wrecsam rydym wedi gallu mynd i’r afael â rhywfaint o’n ôl-groniad cynnal a chadw.
“Rydym yn cydnabod bod angen i ni ddarparu cyllid cyson i gefnogi ein gwaith yn y maes hwn a pharhau i lobïo Llywodraeth Cymru am ddyraniadau cyllid realistig.”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rwy’n falch iawn o’r chwistrelliad o gyllid rydyn ni wedi gallu ei ddarparu fel cyngor ac yn croesawu cyfraniad Llywodraeth Cymru gydag ailgyflwyno’r cyllid Benthyca Llywodraeth Leol, sydd wedi caniatáu i swyddogion ategu’r buddsoddiad hwn gyda chyfanswm o dros £4m o arian ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf.
“O ystyried graddfa’r buddsoddiad eleni, mae swyddogion wedi datblygu rhaglen dau gam ac rwy’n falch bod gennym ein contractwyr yn barod i ddechrau gweithrediadau o ddifrif ar ein cam cyntaf o’r gwaith arfaethedig eleni.
“Tra bod y gwaith hwn yn cael ei gyflawni, bydd swyddogion yn parhau i weithio ar yr ail gam y disgwylir iddo redeg o’r hydref hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.”
Bydd cam cyntaf y rhaglen gwaith seilwaith yn dechrau dros yr haf a gellir dod o hyd i fanylion y gwaith arfaethedig ar wefan y cyngor.