Yn unol â’r cynlluniau i ailgynnau pêl-droed ar lawr gwlad, bydd caeau pêl-droed Cyngor Wrecsam yn ailagor yn raddol ddydd Gwener 21 Tachwedd.
Cafodd yr holl gyfleusterau eu cau ym mis Mawrth yn unol â rheolau’r cyfnod clo ar ddechrau’r pandemig.
Rydym ni wedi penderfynu peidio â chodi tâl ar dimau sy’n defnyddio’r caeau y tymor hwn. Fodd bynnag, bydd yr holl adeiladau (e.e. ystafelloedd newid) yn parhau ar gau hyd nes clywch yn wahanol, ac ni fydd cefnogwyr yn cael dod i wylio gemau.
Mae’r broses archebu’r un fath ag o’r blaen.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Rheolau er diogelwch pawb
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae pêl-droed yn rhan fawr o’n cymunedau, ac mae ailagor y caeau yn rhoi cyfle i blant ac oedolion fwynhau’r gêm unwaith eto… yn ogystal â manteisio ar y buddion iechyd a lles sy’n gysylltiedig â chwaraeon.
“Fodd bynnag, er mwyn diogelu pawb, mae’n hollbwysig bod clybiau yn cadw at y rheolau.
“Mae hyn yn golygu dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a chadw at brotocolau Cymdeithas Bêl-Droed Cymru.
“Gall unrhyw ymddygiad afresymol arwain at gau cae.”
Bydd y Cyngor hefyd yn parhau i fonitro lledaeniad y firws yn Wrecsam ac fe all gau caeau ar fyr rybudd os yw’r sefyllfa’n newid.
Cyfrifoldeb ar bawb
Meddai Mike Parry, Rheolwr Datblygu Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-Droed Cymru:
“Mae’n braf gweld Cyngor Wrecsam yn cymryd camau i helpu pobl ddychwelyd i chwarae pêl-droed yn ddiogel.
“Mae cadw at brotocolau Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn gyfrifoldeb ar bawb sy’n gysylltiedig â’r gêm. Mae’r protocolau yn nodi sut y dylai timau ddiogelu eu hunain ac eraill ac ailafael yn y gêm rydym ni oll yn ei hadnabod a’i charu.
“Mae pêl-droed yn bwysig i iechyd a lles ein cymuned a dw i’n falch iawn y gallwn ni rŵan barhau i gymryd camau bach i ddechrau chwarae unwaith eto.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG