Mae gan yr eiddo 2 ystafell wely ac ystafell fyw, cegin ac ystafell fwyta, toiled lawr grisiau, digon o storfa, dreif a gardd eang ddiogel.
Dyma pryniant cyntaf o’r fath gan y Cyngor, sydd yn darparu Rhaglen Adeiladu a Phrynu, sydd yn ogystal yn cynnwys prynu hen eiddo’r awdurdod lleol, adeiladu tai cyngor newydd a gweithio gyda datblygwyr i ddarparu tai cymdeithasol ar ddatblygiadau adeiladu newydd.
Dywedodd Michael Forgrave, Rheolwr Gyfarwyddwr Gower Homes “Mae’n bleser gweithio gyda Chyngor Wrecsam ar y prosiect hwn i ddarparu tai cymdeithasol o ansawdd da i gefnogi’r gymuned leol.”
Dywedodd y Cynghorydd David Griffith, Aelod Arweiniol Tai “Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â datblygwr lleol, Gower Homes, i ddarparu tai newydd ar gyfer ein tenantiaid. Mae hwn yn gam newydd i’r Cyngor a gobeithiwn y gallwn ddatblygu llawer mwy o dai newydd yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Gwenfair Jones, aelod lleol Gorllewin Gwersyllt “Bydd yr eiddo ym Maes Gwyrdd yn darparu cartrefi gydol oes i’n tenantiaid, rwy’n falch o allu dweud bod y tai newydd hyn ar fy ward, a fydd yn llenwi gyda thenantiaid o’n Rhestr Aros am Dai.”
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN