Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Diweddarwyd diwethaf: Awst 14, 2026 5:46 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Guildhall
RHANNU

Cyn i raglen ddogfen y BBC Buried with Michael Sheen gael ei darlledu ar 17 Awst, mae adroddiadau diweddar yn y cyfryngau wedi codi pryderon ynghylch Lagŵn Tar Asid Llwyneinion a chyn-safle gwaredu gwastraff cemegol Monsanto.

Honnodd pennawd yr wythnos hon fod y Cyngor yn credu nad yw’r safleoedd yn “ddigon peryglus” i gyfiawnhau gwaith glanhau. Nid yw hyn yn wir. Nid yw’r Cyngor erioed wedi defnyddio’r ymadrodd hwn, ac nid yw’n adlewyrchu ein safbwynt ni.

Dros nifer o flynyddoedd, mae’r Cyngor wedi cynnal ymchwiliadau helaeth yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr eraill. Mae’r astudiaethau hyn yn dangos, er bod halogion yn bresennol, nid yw’r safleoedd yn bodloni’r diffiniad cyfreithiol o dir halogedig dan gyfraith genedlaethol. Mae’r casgliad hwn yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol a phroses asesu risg genedlaethol glir — nid ar gost, ac nid ar fychanu risg.

Rydym yn parhau i arolygu’r safleoedd, monitro nentydd a dŵr daear, a chynnal ffensys ac arwyddion rhybudd i gadw’r ardaloedd yn ddiogel. Mae’r gwaith hwn yn mynd y tu hwnt i’n dyletswyddau cyfreithiol gofynnol ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiogelu iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd.

Os caiff tystiolaeth newydd, ddibynadwy ei rhannu â ni, byddwn yn ei hadolygu’n drylwyr gan ddefnyddio canllawiau cenedlaethol a’r wyddoniaeth orau sydd ar gael. Byddem hefyd yn croesawu cynllun cronfa cyfalaf tir halogedig Llywodraeth Cymru yn ei ôl, a oedd yn cefnogi cynghorau yn flaenorol i gynnal ymchwiliadau rhagweithiol a allai helpu i ddatgloi cyllid adfer yn y dyfodol.

Mae gorffennol diwydiannol Wrecsam yn rhan o’n hanes cyffredin, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i reoli ei etifeddiaeth yn gyfrifol, yn agored, a chyda lles ein cymunedau yn flaenaf.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Erthygl nesaf Wrecsam Cyffredinol Wrexham General Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English