Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Awst 17, 2026 10:11 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
RHANNU

Mae pobl ledled Wrecsam yn cael eu hannog i rannu eu barn ar ddyfodol gwasanaethau bysiau wrth i gam nesaf y cynlluniau i wella’r rhwydwaith bysiau yng Nghymru ddechrau.

Bydd ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd wyth wythnos o hyd yn dechrau ddydd Gwener 14 Awst, gan roi cyfle i bobl roi sylwadau ar y rhwydwaith bysiau arfaethedig ar gyfer Gogledd Cymru, wedi’i gynllunio ar y cyd gan Drafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol fel rhan o raglen ddiwygio bysiau ehangach Llywodraeth Cymru.

Nod diwygio bysiau yw darparu gwasanaethau mwy dibynadwy, prisiau tecach a thocynnau ac amserlenni symlach, gyda’r rhwydwaith arfaethedig yn nodi llwybrau ac amlderau a allai weithredu o fewn y cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd.

Bydd nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu yn cael eu cynnal ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystod mis Medi, gan roi cyfle i drigolion ddysgu mwy, gofyn cwestiynau a rhannu eu barn.

Digwyddiadau ymgysylltu yn Wrecsam

  • Dydd Gwener 4 Medi – Neuadd Blwyf y Waun, 9am-1pm
  • Dydd Llun 7 Medi – Gorsaf Fysiau Wrecsam, 8am-1pm a 4:30pm-7pm
  • Dydd Iau 17 Medi – Canolfan Fenter Brymbo, 3pm-6pm
  • Dydd Iau 24 Medi – Prifysgol Wrecsam, drwy’r dydd
  • Dydd Gwener 25 Medi – Canolfan Gymunedol Johnstown, 12pm-3pm

Mae’r digwyddiad ym Mhrifysgol Wrecsam yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau i fyfyrwyr coleg a phrifysgol sydd â’r nod o annog pobl ifanc i ddweud eu dweud ar rwydwaith y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, “Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru i baratoi’r rhwydwaith sylfaenol arfaethedig, ond rydym yn awyddus o hyd i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud a pharhau i wella gwasanaethau bysiau ledled Wrecsam.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae ein buddsoddiad o £650,000 wedi helpu i sicrhau cynnydd o 163,000 yn nifer y teithwyr, sy’n dangos pwysigrwydd parhau i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a’i gwella.

Rydym yn croesawu’r sesiynau ymgysylltu sy’n cael eu cynnal ym mis Medi a byddwn yn annog trigolion i gymryd rhan, rhannu eu profiadau a dweud wrthym beth yr hoffent ei weld o ran gwasanaethau bysiau yn y dyfodol.”

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio Trafnidiaeth Cymru, “Mae bysiau’n chwarae rhan hanfodol wrth gysylltu pobl a chymunedau yng Nghymru, ond rydym yn gwybod bod cyfleoedd i wella.

Trwy fasnachfreinio bysiau rydyn ni am ddarparu cysylltiadau gwell, gwasanaethau amlach, ac amserlenni a phrisiau symlach erbyn 2030.

Rydym nawr yn gofyn i gymunedau ledled Gogledd Cymru helpu i lunio’r cynlluniau hyn. Trwy gymryd rhan yn ein hymgysylltiad cyhoeddus, gall pobl ein helpu i adeiladu rhwydwaith bysiau sy’n gweithio’n well i deithwyr nawr ac yn y dyfodol.”

Gall pobl nad ydynt yn gallu mynd i un o’r digwyddiadau rannu eu barn ar-lein drwy wefan Trafnidiaeth Cymru, a bydd copïau papur ar gael ar gais ac yn y digwyddiadau galw heibio.

Rhannu
Erthygl flaenorol Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26) Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Erthygl nesaf Guildhall Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English