Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynigion ar gyfer cynllun parcio newydd yng nghanol ar gyfer trwyddedau staff ac aelodau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cynigion ar gyfer cynllun parcio newydd yng nghanol ar gyfer trwyddedau staff ac aelodau
Pobl a lleY cyngor

Cynigion ar gyfer cynllun parcio newydd yng nghanol ar gyfer trwyddedau staff ac aelodau

Diweddarwyd diwethaf: Mai 1, 2018 4:52 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Cynigion ar gyfer cynllun parcio newydd yng nghanol ar gyfer trwyddedau staff ac aelodau
RHANNU

Yng nghyfarfod nesaf Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam, gofynnir iddynt gefnogi cynllun i godi tâl ar staff ac aelodau i barcio yng nghanol y dref ac i ofyn am sylwadau gan y rhai a fydd yn cael eu heffeithio, arweinwyr grwpiau ac undebau llafur.

Cynnwys
  • “Gryn dipyn o gefnogaeth gyhoeddus”
  • “Llawer o waith ar feysydd parcio canol y dref”

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn darparu lleoedd parcio am ddim ym meysydd parcio Canol y Dref i rai aelodau o staff ac Aelodau Etholedig.

Fe ddaw’r cynnig yn dilyn y broses gyllideb Penderfyniadau Anodd, a gyflwynodd y cynigion i ddechrau codi tâl ar y rhai yr effeithir arnynt, er mwyn annog dulliau mwy amgen o deithio i’r gwaith – megis cludiant cyhoeddus – ac i greu incwm ychwanegol i’r rhai sy’n dewis talu am barcio.

DWEUD EICH DWEUD AM DDYFODOL TAI YN WRECSAM.

Bydd y newid arfaethedig yn gyfanswm o tua £100 y flwyddyn.

Bydd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yn cyflwyno’r adroddiad.

“Gryn dipyn o gefnogaeth gyhoeddus”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Pan wnaethom ni agor yr ymgynghoriad Penderfyniadau Anodd i’r cyhoedd dros y gaeaf, un o’r nifer o opsiynau a gynigiwyd fel rhan o ymdrechion y Cyngor i leihau costau a chreu incwm oedd dod â’r cynnig parcio am ddim i aelodau a rhai staff i ben.

“Cafodd yr opsiwn yma gryn dipyn o gefnogaeth gyhoeddus, ac rydym ni’n teimlo y dylai’r cynnig hwn gael ei drafod gyda phartïon perthnasol.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu: “Rydym ni’n falch iawn ein bod wedi gallu adnabod y dull posibl yma o greu incwm, gyda chytundeb llawn pob parti sy’n rhan o weinyddu’r Cyngor.

“Mae’r arfer o gynnig parcio am ddim i rai staff ac aelodau wedi bod ar waith ers peth amser, ond o ystyried y pwysau ariannol rydym ni’n ei wynebu, roeddem ni’n teimlo y dylid ystyried yr opsiwn yma, a’n bod yn trafod gyda’r rhai a fydd yn cael eu heffeithio, ynghyd ag arweinwyr grwpiau ac undebau llafur.”

“Llawer o waith ar feysydd parcio canol y dref”

Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol Cludiant: “Rydym wedi gwneud llawer o waith ar feysydd parcio canol y dref dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys gosod peiriannau newydd gyda thechnoleg PIN a thechnoleg ddigyffwrdd, a newid ein prisiau i sicrhau ein barod yn parhau’n gystadleuol a bod y prisiau yn gyfartal ym mhob maes parcio.

“Mae hyn yn rhan o broses hir o sicrhau bod ein prisiau yn parhau’n gystadleuol a theg, ac rwyf eisiau diolch i fy nghyd aelodau arweiniol am eu gwaith ar y mater, a chaniatáu i mi ddod â’r mater ymlaen.”

Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=612&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy “] DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Y diweddaraf am gynlluniau i godi tâl am dalu i ddeiliaid bathodyn glas ac mewn parciau gwledig Y diweddaraf am gynlluniau i godi tâl am dalu i ddeiliaid bathodyn glas ac mewn parciau gwledig
Erthygl nesaf Defaid newydd yn ymuno â diadell Wrecsam y gwanwyn hwn Defaid newydd yn ymuno â diadell Wrecsam y gwanwyn hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English