Yng nghyfarfod nesaf Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam, gofynnir iddynt gefnogi cynllun i godi tâl ar staff ac aelodau i barcio yng nghanol y dref ac i ofyn am sylwadau gan y rhai a fydd yn cael eu heffeithio, arweinwyr grwpiau ac undebau llafur.
Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn darparu lleoedd parcio am ddim ym meysydd parcio Canol y Dref i rai aelodau o staff ac Aelodau Etholedig.
Fe ddaw’r cynnig yn dilyn y broses gyllideb Penderfyniadau Anodd, a gyflwynodd y cynigion i ddechrau codi tâl ar y rhai yr effeithir arnynt, er mwyn annog dulliau mwy amgen o deithio i’r gwaith – megis cludiant cyhoeddus – ac i greu incwm ychwanegol i’r rhai sy’n dewis talu am barcio.
Bydd y newid arfaethedig yn gyfanswm o tua £100 y flwyddyn.
Bydd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yn cyflwyno’r adroddiad.
“Gryn dipyn o gefnogaeth gyhoeddus”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Pan wnaethom ni agor yr ymgynghoriad Penderfyniadau Anodd i’r cyhoedd dros y gaeaf, un o’r nifer o opsiynau a gynigiwyd fel rhan o ymdrechion y Cyngor i leihau costau a chreu incwm oedd dod â’r cynnig parcio am ddim i aelodau a rhai staff i ben.
“Cafodd yr opsiwn yma gryn dipyn o gefnogaeth gyhoeddus, ac rydym ni’n teimlo y dylai’r cynnig hwn gael ei drafod gyda phartïon perthnasol.”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu: “Rydym ni’n falch iawn ein bod wedi gallu adnabod y dull posibl yma o greu incwm, gyda chytundeb llawn pob parti sy’n rhan o weinyddu’r Cyngor.
“Mae’r arfer o gynnig parcio am ddim i rai staff ac aelodau wedi bod ar waith ers peth amser, ond o ystyried y pwysau ariannol rydym ni’n ei wynebu, roeddem ni’n teimlo y dylid ystyried yr opsiwn yma, a’n bod yn trafod gyda’r rhai a fydd yn cael eu heffeithio, ynghyd ag arweinwyr grwpiau ac undebau llafur.”
“Llawer o waith ar feysydd parcio canol y dref”
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol Cludiant: “Rydym wedi gwneud llawer o waith ar feysydd parcio canol y dref dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys gosod peiriannau newydd gyda thechnoleg PIN a thechnoleg ddigyffwrdd, a newid ein prisiau i sicrhau ein barod yn parhau’n gystadleuol a bod y prisiau yn gyfartal ym mhob maes parcio.
“Mae hyn yn rhan o broses hir o sicrhau bod ein prisiau yn parhau’n gystadleuol a theg, ac rwyf eisiau diolch i fy nghyd aelodau arweiniol am eu gwaith ar y mater, a chaniatáu i mi ddod â’r mater ymlaen.”
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI